 |  | A: Addysg - Arfau - Amser - Angau
|  |  |
 | Addysg Dyro addysg i'r doeth ac efe fydd ddoethach.
Diarhebion 9:9
Y neb a garo addysg a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.
Diarhebion 12:1
Arfau Gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.
1 Thesaloniaid 5:8
Amser Y mae amser i bob peth ac amser i bob amcan dan y nefoedd: amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu ac amser i dynnu y peth a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iachau; amser i fwrw i lawr ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio.
Pregethwr 3:1-4
Angau O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth?
1 Corinthiaid 15:55
Arian Ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon.
Mathew 6: 24.
 |  |  |  |
| |
|