BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Crefyddau
SynagogYom Cipwr
Neal Belkin yn sgrifennu o Israel am 'Ddydd y Cymod'
Yn fy erthygl am Rosh Hashana dywedais bod yr ŵyl honno yn gychwyn y 'Deg Dydd o Edifeirwch' sy'n cyrraedd eu hanterth gyda Yom Cipwr - Gŵyl neu Ddydd y Cymod - yr ŵyl Iddewig bwysicaf a sancteiddiaf.
Ond nid gŵyl arferol na dathliad mo Yom Cipwr.

Ymprydio am ddiwrnod
Yn hytrach bodoli er mwyn cymod mae Yom Cipwr (Lefiticus 16:29-31) lle mae'r ymadrodd 'y cystuddiwch eich eneidiau' yn golygu ymprydio heb na bwyd na diod am ddiwrnod cyfan o fachlud haul i awr wedi'r machlud y dydd canlynol.

Mae'r diwrnodau yn ôl y calendr Hebreig yn dechrau ac yn gorffen ar fachlud haul ar sail y disgrifiad o'r diwrnodau yn hanes y Creu yn Genesis 1: "Yr hwyr a fu, a'r bore a fu," sy'n golygu bod y nos yn dod cyn y bore.

Serch hynny, gŵyl yw hi, nid dydd galar, a phawb yn gwisgo eu dillad gorau - ond nid lledr gan fod angen rhywfaint o wyleidd-dra - ac yn cyfarch ei gilydd "chag same'ach" - "Gŵyl hapus".

Mae'r gwasanaethau yn y synagog yn canolbwyntio, fel ar Rosh Hashana, ar gymod ac ar edifeirwch ond gyda phwyslais hefyd ar weddïo ar Dduw i roi ein henwau i lawr yn 'Llyfr y bywyd'.

Hynny oherwydd y traddodiad mai Yom Cipwr yw'r dydd y mae Duw yn penderfynu ffawd ei blant yn ystod y flwyddyn newydd a ninnau, felly, yn gweddïo am gael ein henwau yn 'Llyfr y bywyd, y fendith a'r heddwch' ac yn y 'Llyfr maddeuant'.

Maddau i eraill
Dim ond un elfen o Yom Cipwr ydi maddeuant Duw gan fod maddau i bobl eraill yn elfen hefyd a hynny'n beth anodd iawn weithiau.

Oherwydd cyn y gallwn dderbyn maddeuant gan Dduw dros ein pechodau yn erbyn person arall rhaid inni fynd at y person hwnnw yn bersonol gan ymddiheuro a derbyn ei faddeuant.

Felly rydym yn cysylltu â ffrindiau, perthnasau, a chymdogion ac hyd yn oed rai sy'n gas gennym er mwyn cael maddeuant.

Ac mae'n rhaid i'r Iddew faddau i bob un sy'n dod ato deirgwaith i ymddiheuro neu, fel arall, y sawl sy'n gwrthod sy'n pechu!

Gŵyl maddeuant nid dial yw Yom Cipwr.

Yn ystod gwasanaethau'r pnawn yn y synagogau darllenwn lyfr Jonah sy'n ein dysgu nad yw'n bosibl ffoi rhag Duw a bod yn rhaid inni wynebu'n diffygion a'n ffaeleddau nid ceisio'u hosgoi.
Mae Yom Cipwr yn gyfle i wneud hyn.

Heb deledu na radio
Yn Israel mae'n ddydd gydag awyrgylch arbennig. Nid oes na theledu na radio gydol y dydd.

A chan nad oes neb yn gyrru does dim ceir ar y ffyrdd na chludiant cyhoeddus ond pawb yn cerdded yr heolydd ar eu ffordd i'r synagogau neu i ymweld â ffrindiau neu deulu.

Atgofion trist
Ond mae atgofion trist hefyd - ar y dydd hwn yn 1973, pan oedd pawb yn y synagogau neu gartref gyda'u teuluoedd, ymosododd yr Aifft a Syria ar Israel.

Bu farw tua 6,000 o filwyr Israelaidd mewn digwyddiad sy'n cael ei adnabod fel Rhyfel Dydd y Cymod. (Gwefan Saesneg)

Hyd yn oed heddiw, mae Yom Cipwr yn dechrau y diwrnod cynt i lawer o deuluoedd gydag ymweliadau â beddau yn y mynwentydd milwrol.

Mae'n wir mai 'Dydd y Cymod' yw'r dydd hwn ond i lawer o Israeliaid, nid yw'n 'ŵyl' o gwbl.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy