BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Mawrth 2011

Cymru 19-13 Iwerddon

Dathlodd Mike Phillips ei 50fed cap drwy sgorio cais dadleuol a helpodd Gymru i ennill gêm gartref yn erbyn Iwerddon am yr eildro yn unig ers 1983.

Daeth trobwynt y gêm wedi 50 munud. Yn dilyn cic flêr Jonathan Sexton, maswr Iwerddon, cafodd y Cymry dafliad ar y llinell hanner. Ond, gan fod y bêl a giciodd Sexton wedi mynd i'r dorf, yn ôl y llyfr rheolau nid oedd hawl gan Gymru I daflu'r bêl i mewn yn sydyn.

Ond, dyna a wnaethpwyd, gyda Matthew Rees yn taflu'r bêl yn sydyn i Mike Phillips a redodd am y gornel cyn i'r Gwyddelod gael cyfle i ffurfio'u hamddiffyn.

Iwerddon oedd ar y blaen, 13-9, ar yr hanner, gyda'r capten, Brian O'Driscoll, yn sgorio cais am y 24ain tro yn y Bencampwriaeth.

Yn ogystal â throsi cais Phillips, sgoriodd James Hook bedair cic gosb, gyda Leigh Halfpenny yn llwyddo a chic arall.

Hon oedd y drydedd gêm yn olynol i Gymru ennill - y tro cyntaf iddynt gyflawni'r gamp honno ers tymor y Gamp Lawn yn 2008.


Cymru: 15-Lee Byrne, 14-Leigh Halfpenny, 13-Jamie Roberts, 12-Jonathan Davies, 11-Shane Williams, 10-James Hook, 9-Mike Phillips; 8-Ryan Jones, 7-Sam Warburton, 6-Dan Lydiate, 5-Alun Wyn Jones, 4-Bradley Davies, 3-Craig Mitchell, 2-Matthew Rees (capten), 1-Paul James

Eilyddion: 16-Richard Hibbard, 17-John Yapp, 18-Jonathan Thomas, 19-Rob McCusker, 20-Dwayne Peel, 21-Stephen Jones, 22-Morgan Stoddart

Iwerddon: 15-Luke Fitzgerald, 14-Tommy Bowe, 13-Brian O'Driscoll (capten), 12-Gordon D'Arcy, 11-Keith Earls, 10-Ronan O'Gara, 9-Eoin Reddan; 8-Jamie Heaslip, 7-David Wallace, 6-Sean O'Brien, 5-Paul O'Connell, 4-Donncha O'Callaghan, 3-Mike Ross, 2-Rory Best, 1-Cian Healy.

Eilyddion: 16-Sean Cronin, 17-Tom Court, 18-Leo Cullen, 19-Denis Leamy, 20-Peter Stringer, 21-Jonathan Sexton, 22-Paddy Wallace.

Dyfarnwr: Jonathan Kaplan (De Affrica)

Llimanwyr: Craig Joubert (De Affrica), Peter Allan (Alban)

Teledu: Geoff Warren (Lloegr).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy