BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 26 Chwefror 2011

Yr Eidal 16-24 Cymru

Crafu buddugoliaeth gwnaeth Cymru yn Stadio Flaminio ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad - diolch yn bennaf i sawl ymgais aflwyddiannus at y pyst gan yr Eidalwyr.

Sam Warburton ar ei ffordd i'r llinell gais

Roedd hi'n edrych yn weddol gyfforddus i Gymru ar yr hanner wrth arwain 11-21 ar ôl i Morgan Stoddart a Sam Warburton groesi yn dilyn cais cynnar Gonzalo Canale.

Ond tyfodd hyfer yr Eidal yn yr ail hanner wrth fanteisio ar gamgymeriadau'r ymwelwyr, a phum pwynt oedd ynddi pan diriodd Sergio Parrise am ail gais ei dîm wedi 50 munud.

Amddiffyn am eu bywyd oedd hanes Cymru am weddill yr hanner, ac roedd y rhyddhad yn amlwg pan lwyddodd James Hook i agor y fantais i ddau sgôr gydag wyth munud i fynd.

Llwyddodd Stephen Jones gyda thair gôl gosb a throsiad at y pyst, ond fe fethodd yr Eidalwyr gyda phedair ymgais, a dyna brofodd i fod y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Roedd hi'n chwarter awr agoriadol llawn cyffro wrth i Gymru groesi am ddau gais wrth ymateb i sgôr cynnar Canale i'r tîm cartref.

Gôl gosb gyntaf Jones wedi tri munud cychwynnodd y sgorio, ond roedd yr Eidal ar y blaen dau funud yn ddiweddarach wrth i'r asgellwr gasglu ei gic ei hun ymlaen i dirio wedi camgymeriad clo Cymru Bradley Davies.

Ymatebodd yr ymwelwyr yn syth wrth i Stoddart wasgu drosodd yn y gornel chwith ar ôl i Hook rwygo drwy'r amddiffyn cartref.

Gonzalo Canale yn dathlu ei gais gynnarRoedd hi'n gyfartal 8-8 wrth i Mirco Bergamasco lwyddo gyda gôl gosb, ond yn syth o'r ail-ddechrau, sgoriodd Cymru eu hail gais.

Lee Byrne oedd y pensaer tro yma wrth fylchu lawr canol cae. Roedd Hook ar ei ysgwydd i barhau'r symudiad ac amserodd y canolwr ei bas yn berffaith i ryddhau Warburton am ei gais rhyngwladol gyntaf.

Croesodd Byrne y llinell gais wedi 34 munud, ond cafodd dathliadau'r cefnwr eu difethaf wrth i'r dyfarnwr sylwi bod y bas olaf gan Shane Williams wedi mynd ymlaen.

Gorffennodd yr hanner - un digon cymysglyd o ran safon chwarae Cymru - gydag un gôl gosb i Bergamasco a dwy i Jones, gan sicrhau mantais o 11-21 i'r ymwelwyr.

Heb os, yr Eidal ddechreuodd yr ail hanner orau, ac yn llawn haeddu'r cais gan y capten Parisse.

Camgymeriad arall arweiniodd ati wrth i Williams a Jones wneud smonach yng nghanol cae, gan adael i'r Azzurri osod sylfaen ymosodol berffaith yn 22 Cymru.

Daeth y bêl allan o'r sgarmes yn sydyn, ac roedd Parisse yn rhy gryf i Jones wrth iddo hyrddio dros y llinell yn y gornel chwith.

Roedd hyder yr Eidalwyr yn codi'n raddol wrth i'r gêm droi i mewn i frwydr gorfforol ymysg y blaenwyr, a Chymru'n methu cael eu dwylo ar y bêl.

A phan ddaeth y bêl yn ôl at yr olwyr, roedd Jones, Byrne a Hook yn euog o wastraffu cyfle i ymosod wrth gicio'n ddibwrpas lawr y cae.

Daeth ychydig o feddiant i'r Cochion o'r diwedd yn nwfn yn hanner yr Eidal gydag wyth munud i fynd, ac ar ôl methu ag agor yr amddiffyn, bu'n rhaid bodloni ar gôl adlam gan Hook i agor mantais o wyth pwynt.

Digon cyfforddus oedd y munudau olaf i Gymru, wrth i'r gêm ddirywio'n sylweddol o ran safon oherwydd cam-drafod cyson.

Osgoi colli oedd prif nod Cymru wrth deithio i Rufain, ac er bod hynny wedi ei gyflawni, fe brofodd y perfformiad yn yr ail hanner bod camgymeriadau sylfaenol yn parhau yn bla yn chwarae tîm Warren Gatland.


Yr Eidal: Luke McLean; Andrea Masi, Gonzalo Canale, Alberto Sgarbi, Mirco Bergamasco; Kristopher Burton, Fabio Semenzato; Salvatore Perugini, Leonardo Ghiradlini, Martin Castrogiovanni, Santiago Dellape, Quintin Geldenhuys, Alessandro Zanni, Robert Barbieri, Sergio Parisse.
Eilyddion: Carlo Festuccia, Andrea Lo Cicero, Valerio Bernabo, Manoa Vosawai, Pablo Canavosio, Luciano Orquera, Tommaso Benvenuti.

Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Morgan Stoddart (Scarlets), James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision); Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch); Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets, capt), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavin Knoyle (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision).

Dyfarnwr: Wayne Barnes (RFU).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy