BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Chwefror 2011

Yr Alban 6-24 Cymru

Sgoriodd Shane Williams ddau gais wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth haeddiannol yn y Chwe Gwlad a dod a'r rhediad o wyth gêm heb ennill i ben.

Shane Williams yn sgorio ei gais gyntaf yn Murrayfield

Croesodd yr asgellwr wedi wyth munud wrth i'r ymwelwyr gychwyn ar dân yn Murrayfield, gyda James Hook yn ychwanegu 11 pwynt arall yn chwarter agoriadol y gêm.

Un gôl gosb ym mhob hanner gan Dan Parks oedd unig lwyddiant yr Albanwyr, er i'r tîm cartref fwynhau sawl cyfnod hir o feddiant.

Seiliwyd y fuddugoliaeth gyda 10 munud i fynd pan gasglodd Williams gic ymlaen gan Jonathan Davies.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru ers gêm olaf y bencampwriaeth y llynedd, gan godi'r pwysau oddi ar ysgwyddau'r hyfforddwr, Warren Gatland, am y tro.

Penderfyniad Gatland i ddewis Hook yn safle'r maswr ar draul Stephen Jones oedd y prif bwnc trafod cyn y gêm.

Ond profwyd doethineb y dewis yna yn ddigon buan wrth i Hook greu cais cynnar i Williams, gan yna fyna ati i gyfeirio'r chwarae'n feistrolgar.

Roedd ei fylchiad cyn rhyddhau'r asgellwr am y sgôr yn enghraifft berffaith o'i ddawn reddfol wrth redeg, gan achosi anrhefn yn y llinell amddiffynnol.

James Hook yn torri llinell yr Alban i greu y cais gyntafAr ôl trosi'r cais cynnar yng nghysgod y pyst, ychwanegodd y maswr tair gôl gosb mewn wyth munud wrth i redeg cryf y Cymry orfodi'r Albanwyr i droseddu yn ei hanner eu hunain.

Roedd Jamie Roberts yn amlwg iawn yn chwarae ymosodol wrth i'r canolwr ateb cri Gatland i fynd i chwilio am y bêl ar bob cyfle.

Ond ar ôl dangos eu dawn ymosodol, profodd yr ymwelwyr bod dycnwch amddiffynnol ac asgwrn cefn yn rhinwedd o'r garfan ar ôl mynd i lawr i 13 dyn.

Cerdyn melyn yr un i Bradley Davies a Lee Byrne o fewn pedwar munud i'w gilydd oedd y rheswm am hynny, ond un gôl gosb gan Parks oedd yr unig bwyntiau a ildwyd.

Dirywiodd safon y gêm o hynny ymlaen, yn rhannol wrth i Gymru ei chael hi'n anodd i gael eu dwylo ar y bêl.

Ond safodd yr amddiffyn yn gadarn unwaith eto, a chynyddodd rhwystredigaeth yr Albanwyr wrth i gamgymeriadau atal llif eu chwarae.

Ar ôl i Parks cau'r bwlch gyda'i ail gôl gosb, cafodd Roberts gyfle euraidd i sgorio ar ôl i'r Alban ildio meddiant yng nghanol cae.

Roedd y ffordd yn glir i'r canolwr at y llinell gais o 40 metr , ond llwyddodd Sean Lamont i'w ddal a'i lorio 10 metr yn fyr.

Serch hynny, cafodd yr Albanwyr eu cosbi am drosedd arall yn fuan wedyn, a tharodd Hook y bêl yn hyderus rhwng y pyst.

Dyna oedd ei gyfraniad olaf cyn ildio ei le i Jones, ond roedd y maswr wedi gwneud hen ddigon i awgrymu mai fo fydd yn cychwyn yn y crys rhif 10 yn y gêm nesaf yn erbyn yr Eidal ymhen bythefnos.

Roedd cyffro a thempo'r gêm yn brysur ddiflannu wrth gyrraedd y 10 munud olaf, ond yna o ddim, sgoriodd Cymru eto i ladd awch yr Albanwyr yn gyfan gwbl.

Manteisio ar gamgymeriad arall y tîm cartref gwnaeth y Cymry, wrth i'r blaenwyr ddwyn y bêl mewn ryc.

Lledwyd y bêl yn gyflym i'r chwith, a gwelodd Jonathan Davies bod cyfle am gic wrth weld aceri o dir gwag o'i flaen.

Doedd hi fawr o syndod i weld Williams yn ennill y ras i'r bêl i sgorio yn ddigon hamddenol, gan ymestyn ei record i 53 cais i'w wlad.

Digon cyfforddus oedd y munudau olaf, ac roedd y rhyddhad yn amlwg ar wynebau'r Cymry wrth allu dathlu buddugoliaeth o'r diwedd wedi sawl canlyniad siomedig.


Yr Alban: Hugo Southwell (Stade Francais), Nikki Walker (Gweilch), Joe Ansbro (Northampton Saints), Nick De Luca (Caeredin), Max Evans (Glasgow Warriors); Dan Parks (Gleision Caerdydd) Rory Lawson (Caerloyw); Allan Jacobsen (Caeredin), Ross Ford (Caeredin), Euan Murray (Northampton Saints), Nathan Hines (Leinster), Alastair Kellock (Glasgow Warriors, capt), John Barclay (Glasgow Warriors), Kelly Brown (Saracens), Richie Vernon (Glasgow Warriors).
Eilyddion: Scott Lawson (Caerloyw), Moray Low (Glasgow Warriors), Scott MacLeod (Caeredin), Ross Rennie (Caeredin), Mike Blair (Caeredin), Ruaridh Jackson (Glasgow Warriors), Sean Lamont (Scarlets).

Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Morgan Stoddart (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch); James Hook (Gweilch), Mike Phillips (Gweilch); Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets,capten), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy