Croesodd asgellwr Northampton am geisiau yn y naill hanner gyda Toby Flood yn cyfrannu 13 o bwyntiau gyda'i droed.
Roedd tîm Martin Johnson ar y blaen 23-9 ar un cyfnod cyn i Gymru daro'n ôl diolch i gais Morgan Stoddart.
Ond sicrhaodd yr eilydd Jonny Wilkinson y fuddugoliaeth gyda phum munud yn weddill gan roi'r dechrau gorau posib i Loegr.
Mae'r canlyniad yn gadael Cymru heb fuddugoliaeth mewn wyth gêm Brawf gyda thaith i'r Alban y penwythnos nesaf.
Cymru ddechreuodd y gêm ac roedd hi'n amlwg beth oedd bwriad Lloegr o'r cychwyn wrth iddynt wrthymosod o'u 22ain.
Yn ystod yr hanner munud agoriadol fe dderbyniodd Stephen Jones ergyd drom wrth geisio taclo Ben Foden.
Ond ar ôl derbyn triniaeth gan ffisio Cymru, Mark Davies fe benderfynwyd y byddai Jones yn iawn i barhau.
Ac fe ddyfarnwyd cic gosb i Gymru gyda chyfle i James Hook sicrhau'r pwyntiau cyntaf wedi tri munud.
Fe ddaeth hynny wedi i Gymru chwalu Lloegr yn y sgrym, arweiniodd at eiriau'n cael eu cyfnewid rhwng aelodau'r ddau reng-flaen.
Ond fe fethodd y cefnwr, fydd yn chwarae ei rygbi yn Ffrainc y tymor nesaf, gyda'i gynnig o'r hanner ffordd.
Wedi i Andrew Sheridan gael ei gosbi fe ddyfarnwyd cic gosb arall i Gymru, gyda Stephen Jones yn ail-gydio yn y dyletswyddau cicio onid iddo fethu cynnig rhwydd.
Roedd dihangfa i Gymru pan wastraffodd capten Lloegr Mike Tindall gyfle gwych ond i'w bas hedfan dros ben Chris Ashton gan ddisgyn dros yr ystlys.
Camddealltwriaeth llwyr yn amddiffyn Cymru arweiniodd at gais agoriadol y noson wedi 13 munud.
Fe agorodd Toby Flood fwlch enfawr yn yr amddiffyn cyn rhyddhau Ashton, blymiodd dros y llinell am ei bedwaredd cais ryngwladol.
Ac oedd y trosiad yn un hawdd i'r gŵr dyma'n creu'r cais, maswr Caerlŷr Flood.
Pedair munud yn ddiweddarach ac roedd Flood wedi ychwanegu tri phwynt arall i Loegr gyda chic gosb lwyddiannus wedi i Andy Powell droseddu.
Stephen Jones hawliodd pwyntiau cyntaf o'r noson i Gymru wedi 22 munud gyda chic gosb .
Ac wedi cyfnod dan bwysau fe dorrodd Cymru yn rhydd o'i hanner ei hunain gyda Mike Phillips yn rhyddhau Morgan Stoddart ar yr asgell dde.
Roedd Stoddart yn carlamu lawr yr asgell ond fe gamodd Foden i'r adwy gan daclo chwaraewr y Scarlets ar yr ystlys.
Roedd y symudiad hwnnw wedi tanio Cymru a dim ond gweithred sinigaidd gan Lewis Deacon dyma'n rhwystro cais i Gymru.
Fe welodd Deacon y cerdyn melyn wedi iddo fachu'r bêl o afael Mike Phillips er mwyn atal y bygythiad yn fwriadol.
Ac o'r gic gosb ganlynol roedd Stephen Jones yn llwyddiannus i leihau mantais yr ymwelwyr i bedwar pwynt,
Ond fe lwyddodd Lloegr i oroesi'r deg munud gyda 14eg dyn drwy beidio ag ildio rhagor o bwyntiau.
Yn wir Lloegr ychwanegodd at eu cyfanswm gyda Flood yn hawlio tri phwynt arall wedi i Andy Powell gael ei gosbi am gicio'r bêl o'r ryc.
Fe orfodwyd newid ar Gymru ymysg y blaenwyr gyda Powell yn gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd a'r cyn-gapten Ryan Jones yn cymryd ei le fel wythwr.
Roedd yr hanner cyntaf i orffen gyda rhediad Shane Williams yn rhoi'r Saeson o dan bwysau.
Ond yn hytrach na chadw'r bêl yn fyw yn ei ddwylo fe benderfynodd yr asgellwr ar gic a chwrs ond i'r bêl adlamu.
Tri munud wedi'r ail ddechrau ac roedd Chris Ashton wedi ildio cic gosb, gyda Jones yn manteisio gan gau'r blwch i bedwar pwynt unwaith yn rhagor.
Ond o fewn dim roedd Cymru lawr i 14eg dyn gyda Craig Mitchell yn cael ei anfon i'r gell gosb wedi i Alain Rolland sylwi fod y prop wedi troseddu yn y ryc.
Fe gosbwyd Cymru ymhellach wrth i gic Flood yn syth lawr y canol wneud hi'n 16-9 cyn i dîm Martin Johnson hawlio ail gais.
Wedi llinell sydyn fe ledwyd y bêl ac fe gafodd pas gan Shontayne Hape ei chasglu gan Ashton, croesodd am ei ail gais o'r noson.
Ac unwaith yn rhagor, fel yn yr hanner cyntaf, roedd Flood i goroni cais Ashton gyda throsiad llwyddiannus.
Ond o fewn munud roedd Cymru yn ôl yn y gêm gyda dau o chwaraewyr y Scarlets yn cyfuno am eu cais agoriadol.
Ar ôl canfod bwlch fe basiodd Jonathan Davies i'r tu allan gan ganfod Stoddart, dyma'n croesi'r llinell am ei drydydd cais rhyngwladol.
Troswyd y cais gan faswr y Scarlets, Stephen Jones gan gynnig gobaith I Gymru wedi cyfnod pan oedd hi'n ymddangos bod y gêm yn llithro o'u gafael.
Ac fe ddaeth Cymru o fewn pedwar pwynt i gyfanswm Lloegr gyda Hook yn sgorio gyda chic cosb ar ôl i Rolland ddyfarnu bod Hope yn camsefyll.
Bu llinell cais Cymru dan warchae wedi hynny ond fe lwyddodd ymdrech arwrol gan Gymru i rwystro'r eilydd o brop David Wilson rhag hawlio trydydd cais i'w dîm.
Ond fe estynnodd eu mantais i saith pwynt pan gafodd yr eilydd Lee Byrne ei gosbi am beidio rhyddhau'r bêl ar ôl cael ei daclo gan Tom Palmer.
Eilydd arall, Jonny Wilkinson gamodd i gymryd y gic gosb gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf o'r Bencampwriaeth i Loegr.
Ac mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn parhau i ddisgwyl am eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Mawrth y llynedd.
Cymru: James Hook (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch), Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets, capten), Craig Mitchell (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Andy Powell (Wasps).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision); Ryan Jones (Gweilch), Jonathan Thomas (Gweilch), Dwayne Peel (Sale), Rhys Preistland (Scarlets), Lee Byrne (Gweilch).
Lloegr: Ben Foden (Northampton); Chris Ashton (Northampton), Mike Tindall (Caerloyw, capten); Shontayne Hape (Caerfaddon), Mark Cueto (Sale); Toby Flood (Caerlŷr), Ben Youngs (Caerlŷr); Andrew Sheridan (Sale), Dylan Hartley (Northampton), Dan Cole (Caerlŷr), Lewis Deacon (Caerlŷr), Tom Palmer (Stade Francais), Tom Wood (Northampton), James Haskell (Stade Francais), Nick Easter (Harlequins).
Eilyddion: Steve Thompson (Leeds), David Wilson (Caerfaddon); Simon Shaw (Wasps), Joe Worsley (Wasps), Danny Care (Harlequins), Jonny Wilkinson (Toulon), Matt Banahan (Caerfaddon).
Dyfarnwr: Alain Rolland (Iwerddon)
Torf: 74,276