BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 04 Chwefror 2010

Cooper yw'r dewis cywir medd Edwards

Mae Gareth Edwards yn cytuno gyda phenderfyniad Warren Gatland i ddewis Gareth Cooper fel mewnwr ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham brynhawn Sadwrn.

Gareth Cooper
Gyda Mike Phillips a Dwayne Peel yn absennol bu'n rhaid i Gatland ddewis rhwng Cooper, Richie Rees neu Martin Roberts i wisgo'r crys rhif 9.

Cooper, sydd wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, sydd wedi derbyn sêl bendith Gatland tra bod Rees, sydd eto i ennill cap rhyngwladol i'r tîm llawn, ar y fainc.

Fel cyfarwyddwr o'r Gleision, mae cyn fewnwr Cymru Edwards wedi gweld Cooper a Rees yn gyson y tymor hwn.

"Yn fy marn i dyma'r dewis gorau i ddechrau'r gêm," meddai cyn gapten Cymru.

"'Dwi'n credu bod Warren Gatland wedi mynd am brofiad Gareth Cooper, does dim amheuaeth am hynny.

"Falle dyna'r peth iawn hefyd gan ein bod yn chwarae yn Twickenham.

"Mae'n mynd i fod yn gêm gystadleuol ac yn gêm anferth ac mae profiad yn beth pwysig ofnadwy.

"Mae Richie Rees wedi chware'n dda yn ystod y tymor ac ar brydiau y gwirionedd yw ei fod wedi chwarae'n well na Gareth.

"Ond mae'r profiad mawr 'da Gareth - mae e wedi bod yn y sefyllfa yma ac yn brofiadol dros y blynyddoedd.

"Ond mae Richie wedi dangos ei fod yn gallu dod ymlaen ac yn eilydd arbennig.

"Mae'n rhoi llawer o bwrpas i gêm ac mae'n gallu dod ymlaen a gwneud gwahaniaeth.

"Efallai bod yn well bod e'n dod arnodd fel eilydd."

Chwaraewr arall o'r Gleision sydd wedi ei ddewis yn y tîm ar draul un o'i gyd chwaraewyr rhanbarthol yw Tom James.

Mae James wedi cael ei ddewis fel asgellwr yn hytrach na Leigh Halfpenny, fydd ymysg yr eilyddion ddydd Sadwrn.

Fe fydd James, sydd wedi ennill wyth cap dros ei wlad, yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

"Mae Tom wedi bod ychydig bach yn dawel yn ystod y tymor," meddai Edwards.

"Ond mae Tom 'da'r gallu, da ni gyd yn gwybod hynny ac mae e hefyd yn ddeinamig. Mae fe'n gallu gwneud rhywbeth mas o ddim byd.

"Mae fel rhywbeth yr oedd John Bevan arfer ei wneud yn y saithdegau."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy