Y tîm cartref oedd ar y blaen o 13-10 ar yr hanner - Adam Hughes sgoriodd gais agoriadol i'r Dreigiau, gyda gweddill eu pwyntiau yn dod o esgid Jason Tovey.
Cicio Jonathan Sexton oedd yn gyfrifol am 16 o bwyntiau Leinster - gyda'r ddau gais yn dod gan Issac Boss, a chais gosb.
Mae Leinster bellach yn gyfartal â'r Gweilch ar 55 pwynt, gyda'r Gweilch yn parhau yn drydydd ar wahaniaeth pwyntiau.
Dreigiau: Martyn Thomas; Will Harries, Adam Hughes, Tom Riley, Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Lloyd Burns, Dan Way, Luke Charteris (capten), Adam Jones, Joe Bearman, Lewis Evans, Toby Faletau.
Eilyddion: Steve Jones, Hugh Gustafson, Ben Castle, Adam Brown, Gavin Thomas, Matthew Pewtner, Matthew Jones, Jon Evans.
Leinster: Isa Nacewa; Shane Horgan, Eoin O'Malley, Fergus McFadden, Luke Fitzgerald; Jonathan Sexton, Isaac Boss; Heinke van der Merwe, Richardt Strauss, Stan Wright, Leo Cullen (capten), Devin Toner, Kevin McLaughlin, Dominic Ryan, Rhys Ruddock.
Eilyddion: Aaron Dundon, Jack McGrath, Simon Shawe, Nathan Hines, Jamie Heaslip, Eoin Reddan, Ian Madigan, Dave Kearney.
Dyfarnwr: Andy Macpherson (Alban).