Roedd Biggar eisoes wedi cicio dwy gic gosb, cyn iddo groesi am gais cyntaf y gêm - y maswr yn cael y dasg hawdd o dirio ar ôl derbyn y bas gan Richard Fussell.
Ond, tarodd Caeredin yn ôl i sgorio'u cais cyntaf ar ddiwedd yr hanner, gyda Cairns yn bwydo'r bêl i Jim Thompson.
Daeth ail gais y tîm cartref ar ôl i Scott MacLeod basio'r bêl i Tim Visser, aeth heibio Tommy Bowe a Rhys Webb cyn tirio'r bêl.
Er waetha'r golled, mae'r Gweilch yn parhau yn y trydydd safle yn y gynghrair Magners.
Caeredin: Jim Thompson; Simon Webster, Ben Cairns, James King, Tim Visser; Greig Laidlaw, Mike Blair; Kyle Traynor, Andrew Kelly (capten), David Young, Scott MacLeod, Esteban Lozada, Fraser McKenzie, David Denton, Scott Newlands.
Eilyddion: Alun Walker, Robin Hislop, Jack Gilding, Steven Turnbull, Struan Dewar, Lee Jones, David Blair, Tom Brown.
Gweilch: Richard Fussell; Tommy Bowe, Sonny Parker, Ashley Beck, Nikki Walker; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Huw Bennett, Adam Jones, Ian Gough, Ian Evans, Tom Smith, Justin Tipuric (capten), Ryan Jones.
Eilyddion: Richard Hibbard, Ryan Bevington, Cai Griffiths, Alun Wyn Jones, Jerry Collins, Tom Isaacs, James Hook, Andrew Bishop.
Dyfarnwr: Dudley Phillips (Iwerddon).