BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Mawrth 2011

Ulster 25-23 Dreigiau

Sgoriodd Ruan Pienaar gôl adlam yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i Ulster wrth iddynt dorri calonnau'r Dreigiau yn Ravenhill.

Aled Brew yn croesi am gais i'r Dreigiau

Munud yn gynharach roedd hi'n ymddangos bod Jason Tovey wedi ennill y gêm i'r ymwelwyr gyda gôl adlam i wneud hi'n 23-22.

Ond Pienaar gafodd y gair olaf ac mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Ulster yn codi i'r pedwerydd safle yng Nghynghrair Magners.

Y tîm cartref oedd wedi bod ar y blaen 10-5 ar yr egwyl wedi cais cynnar Nevin Spence a chicio llwyddiannus Pienaar gyda Tovey yn croesi am gais i'r ymwelwyr.

Roedd y Dreigiau i daro'n ôl yn yr ail hanner gyda cheisiau Lewis Evans ac Aled Brew ond i Darren Cave a throsiad Pienaar adfer mantais Ulster gyda thri munud yn weddill.

Mewn diweddglo cyffrous roedd hi'n ymddangos bod gôl adlam Tovey wedi sicrhau buddugoliaeth i'r Dreigiau cyn i Pienaar gael y gair olaf.


Ulster: A D'Arcy, C Gaston, N Spence, L Marshall, C Gilroy, P Jackson, R Pienaar; P McAllister, A Kyriacou, D Fitzpatrick, J Muller (capt), T Barker, C Henry, W Faloon, R Diack.
Eilyddion: N Brady, B Young, J Cronin, D Tuohy, P Wannenburg, P Marshall, D Cave, T Seymour.

Dreigiau: Martyn Thomas; Will Harries; Adam Hughes, Pat Leach; Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Lloyd Burns, Dan Way, Luke Charteris, Adam Jones, Andrew Coombs, Lewis Evans, Joe Bearman.
Eilyddion: Steve Jones, Pat Palmer, Hugh Gustafson, Adam Brown, Toby Faletau, Tom Riley, James Leadbeater, Matthew Jones

Eilyddion: James Jones (URC)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy