Sicrhawyd y pwynt bonws wrth i'r asgellwr, Doug Howlett, dirio dwywaith yn yr hanner cyntaf, ac i'r capten, Mick O'Driscoll, a'r cefnwr, John Murphy, groesi yn yr ail hanner.
Yn y munudau olaf, tywalltwyd halen ar y briw, wrth i'r Dreigiau wneud smonach lwyr o dafliad ar eu llinell eu hunain, a'r hen ben, Alan Quinlan, gafodd y dasg hawdd o sgorio'r pumed cais i'r ceffylau blaen yn y gynghrair.
Sgoriodd Paul Warwick bymtheg pwynt i Munster.
Ciciodd Jason Tovey bedair cic gosb i'r Dreigiau, gyda'r capten, Steve Jones yn sgorio'u unig gais o'r gêm.
Munster: John Murphy, Doug Howlett, Lifeimi Mafi, Paul Warwick, Simon Zebo, Declan Cusack, Conor Murray, Marcus Horan, Denis Fogarty, Stephen Archer, Ian Nagle, Mick O'Driscoll capt; Donnacha Ryan, James Coughlan, Denis Leamy.
Eilyddion: Damien Varley, Wian du Preez, Tony Buckley, Alan Quinlan, Tommy O'Donnell, Peter Stringer, Sam Tuitupou, Danny Barnes.
Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Tom Riley, Pat Leach, Matthew Pewtner; Jason Tovey, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Steve Jones (capt), Ben Castle, Scott Morgan, Rob Sidoli, Andrew Coombs, Toby Faletau, Joe Bearman.
Eilyddion: Lloyd Burns, Pat Palmer, Phil Price, Adam Jones, Lewis Evans, Ashley Smith, Jon Evans, Matthew Jones.