Cafodd Dan Biggar noson i'w cofio wrth iddo sgorio cais, trosi tri chais, gicio un gic gosb a chic adlam.
Daeth ceisiai eraill y tîm cartref o gais cosb, Ashley Beck, Justin Tipuric a Jerry Collins.
Daeth pwyntiau Glasgow o ddwy gic gosb gan Duncan Weir.
Mae'r fuddugoliaeth yn cadarnhau lle'r Gweilch yn yr ail safle yn y gynghrair Magners.
O ran y garfan genedlaethol, efallai mai moment tyngedfennol y gêm oedd ymddangosiad Adam Jones, a ddaeth ymlaen fel eilydd am y chwarter olaf.
Gweilch: Richard Fussell; Tom Prydie, Sonny Parker, Ashley Beck, Hanno Dirksen; Dan Biggar, Rhys Webb; Ryan Bevington, Richard Hibbard, Cai Griffiths, Ian Gough, Ian Evans, Tom Smith, Justin Tipuric (capten), Jonathan Thomas.
Eilyddion: Mefin Davies, Duncan Jones, Adam Jones, James King, Jerry Collins, Jamie Nutbrown, Dai Flanagan, Andrew Bishop.
Glasgow: Stuart Hogg, Hefin O'Hare, Peter Murchie, Peter Horne, DTH van der Merwe, Duncan Weir, Colin Gregor (capten), Ryan Grant, Fergus Thomson, Ed Kalman, Aly Muldowney, Tom Ryder, James Eddie, Calum Forrester, Ryan Wilson.
Eilyddion: Pat MacArthur, Gordon Reid, Kevin Tkachuk, Robert Harley, Johnnie Beattie, Henry Pyrgos, Federico Aramburu, Bernardo Stortoni.
Dyfarnwr: Alan Falzone (Eidal).