Niall Morris a Issac Boss sgoriodd ddau gais y tîm cartref, gyda Jonathan Sexton yn cicio gweddill y pwyntiau.
Yn anffodus, chafodd maswr y Scarlets, Rhys Priestland, ddim gystal noson a Sexton. Methodd dair cic cosb a throsiad, werth 11 pwynt; ac fe fethodd y dacl arweiniodd at gais Morris yn y nawfed munud.
10-3 i Leinster oedd y sgôr ar yr hanner, ond gyda chicio cywir Sexton, roedd hi'n 19-3 efo chwarter y gêm yn weddill.
Serch hynny, brwydrodd y Scarlets yn ôl, gyda chais y prop, Rhys Thomas, yn cynnig llygedyn o obaith i'r ymwelwyr.
Ond, pharodd y gobaith ddim yn hir. Gyda'r capten, Gareth Maule yn gweld y garden felen, a'r Scarlets i lawr i 14 dyn, llwyddodd seren y gêm, Dominic Ryan, ennill tir cyn pasio'r bêl i Boss, i wneud y gêm yn saff i Leinster.
Er i'r eilydd, Nick Reynolds, sgorio cais yn y funud olaf, mae record y Scarlets bellach yn dangos un fuddugoliaeth mewn naw gêm yn erbyn Leinster.
Leinster: I Nacewa; N Morris, E O'Malley, F McFadden, D Kearney; J Sexton, I Boss; H van der Merwe, R Strauss, S Wright; L Cullen (capten), D Toner; K McLaughlin, D Ryan, R Ruddock.
Eilyddion: J Harris Wright, J McGrath, S Shawe, N Hines, P Ryan, P O'Donohoe, I Madigan, D Riordan.
Scarlets: Dan Newton; George North, Regan King, Gareth Maule (capten), Joe Ajuwa; Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Rhodri Jones, Rhys Lawrence, Rhys Thomas, Lou Reed, Aaron Shingler, Rob McCusker, Josh Turnbull, Ben Morgan.
Eilyddion: Kirby Myhill, Peter Edwards, Simon Gardiner, Damian Welch, Johnathan Edwards, Gareth Davies, Daniel Evans, Nick Reynolds.
Dyfarnwr: Andy Macpherson (Alban).