Un yn unig ddaeth cyn yr egwyl, a hynny tri munud cyn yr egwyl wrth i'r asgellwr Richard Fussell groesi.
Roedd Connacht 6-8 ar y blaen ar y pryd diolch i gais Jonny O'Connor a gôl gosb Ian Keatley.
Ond roedd hi'n ail hanner feistrolgar gan y tîm cartref wrth i Tom Prydie, Sonny Parker a Mefin Davies dirio, gyda Dan Biggar yn mynd a'i gyfanswm personol i 13 pwynt gyda'i droed. Daeth cais y bachwr profiadol Davies gyda symudiad olaf y gêm.
Michael Swift sgoriodd ail gais yr ymwelwyr, gyda Keatley yn ychwanegu pum pwynt arall.
Gweilch: Richard Fussell; Tom Prydie, Sonny Parker, Ashley Beck, Hanno Dirksen; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Huw Bennett, Cai Griffiths, Ian Gough, Ian Evans, Tom Smith, Justin Tipuric (capt), Jerry Collins.
Eilyddion: Mefin Davies, Ryan Bevington, Craig Cross, Andy Lloyd, James King, Tom Isaacs, Dai Flanagan, Andrew Bishop.
Connacht: Gavin Duffy; Brian Tuohy, Niva Ta'auso, Troy Nathan, Fionn Carr; Ian Keatley, Frank Murphy; Brett Wilkinson, Adrian Flavin, Jamie Hagan; Michael Swift, Mike McCarthy; Andrew Browne, Johnny O'Connor (capt), Ray Ofisa.
Eilyddion: Dermot Murphy, Ronan Loughney, Rodney Ah You, Bernie Upton, Mike McComish, Cillian Willis, Niah Nikora, Keith Matthews.
Dyfarnwr: Stefano Penne (Yr Eidal).