Sgoriodd y tîm cartref ddau gais ym mhob hanner, gyda Craig Gilroy a Ruan Pienaar yn tirio yn yr hanner cyntaf.
Sicrhawyd y pwynt bonws i'r tîm cartref, ar ôl i Andrew Trimble a Luke Marshall sgorio cais bob un yn yr ail hanner.
Daeth unig gais y Gleision yn yr hanner cyntaf, gyda'r cefnwr, Dan Fish, yn gorffen symudiad taclus. Troswyd y cais gan Sweeney, a gyfranodd gyda dwy gic gosb hefyd.
Ciciodd Ian Humphries 11 pwynt i'r tîm cartref.
Mae'r canlyniad yn golygu fod y Gleision yn drydydd yn y tabl, bwynt tu ôl i'r Scarlets.
Ulster: Adam D'Arcy, Andrew Trimble, Nevin Spence, Luke Marshall, Craig Gilroy; Ian Humphreys, Ruan Pienaar; Bryan Young, Andi Kyriacou, Declan Fitzpatrick; Johann Muller (Capten), Tim Barker; Chris Henry, Willie Faloon, Pedrie Wannenburg
Eilyddion: Nigel Brady, Paddy McAllister, Jerry Cronin, Neil McComb, TJ Anderson, Paul Marshall, Ian Whitten, Tommy Seymour
Gleision: Dan Fish, Richard Mustoe, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Tom James, Ceri Sweeney, Rhys Downes, Xavier Rush, Martyn Williams, Andries Pretorius, Paul Tito (Capten), Deiniol Jones, Scott Andrews, T Rhys Thomas, Taufa'ao Filise
Eilyddion: Gareth Williams, Nathan trevett, Sam Hobbs, Ben White, Ma'ama Molitoka, Tom Slater, Gareth Davies, James Loxton
Dyfarnwr: James Jones (Cymru).