| Croesodd North, oedd wedi bod allan ers mis Tachwedd yn dilyn llawdriniaeth i'w ysgwydd, unig gais y gêm wedi 20 munud. Roedd Dan Newton wedi sicrhau pwyntiau cyntaf y gêm i'r Scarlets wedi gôl gosb gynnar. Ychwanegodd ail gôl gosb wedi'r egwyl wrth i'r Scarlets sicrhau'r fuddugoliaeth sydd yn eu gweld yn codi i'r ail safle. David Blair sgoriodd unig bwyntiau Caeredin gyda gôl gosb yn ystod yr hanner cyntaf.
 |