Llwyddodd y maswr, sydd wedi colli ei le yng ngharfan Cymru, i gicio chwe gôl gosb wrth i'r ddau dîm fethu a chreu llawer gyda'r bêl yn ei dwylo.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 13-0 yn yr hanner cyntaf diolch i gais gosb a chiciau Ian Humphreys, ond tarodd y tîm cartref yn ôl gyda chais Marty Holah a thair gôl gosb i arwain o bwynt ar yr hanner.
Rhoddodd dwy gôl gosb Ruan Pienaar yn fantais yn ôl i Ulster, ond llwyddodd Biggar gyda thair cic arall, gan olygu mai ofer oedd tri phwynt arall gan Pienaar gyda chwe munud i fynd.
Gweilch: Richard Fussell; Tom Prydie, Sonny Parker, Ashley Beck, Hanno Dirksen; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Huw Bennett, Cai Griffiths, Ian Gough, Ian Evans, Tom Smith, Marty Holah, Jerry Collins (capt).
Eilyddion: Mefin Davies, Ryan Bevington, Craig Cross, James King, Justin Tipuric, Jamie Nutbrown, Gareth Owen, Tom Isaacs.
Ulster: A D'Arcy; C Gilroy, N Spence, I Whitten, S Danielli; I Humphreys, R Pienaar; B Young, N Brady, D Fitzpatrick, J Muller (capt), T Barker, C Henry, W Faloon, P Wannenburg.
Eilyddion: A Kyriacou, J Cronin, A Whitten, R Caldwell, TJ Anderson, P Marshall, L Marshall, D McIlwaine.
Dyfarnwr: Neil Patterson (RFU).