Mae'r golled yn ergyd i'w gobeithion o sicrhau eu lle ym mhedwar uchaf Cynghrair Magners.
Connacht oedd ar y blaen ar yr hanner o 8-3, gyda chais Frank Murphy a chic gosb Ian Keatley yn cael eu hateb gan gic gosb Dan Newton.
Daeth y Scarlets yn ôl yn dilyn trosgais Gareth Maule, cyn i dair cic gosb lwyddiannus gan Keatley roi'r tîm cartref ar y blaen 17-10.
Llwyddodd Newton efo un gic gosb arall i'r Scarlets er mwyn sicrhau bod y daith i Iwerddon ddim yn gwbl ofer.
Connacht: Duffy, Tuohy, Ta'auso, Nathan, Carr, Keatley, F. Murphy, Wilkinson, Flavin, Hagan, Swift, McCarthy, A. Browne, O'Connor, McComish.
Eilyddion: Ah You am Hagan (42), Ofisa am McComish (41).
Heb eu defnyddio: D. Murphy, Rogers, Upton, Willis, Nikora, Monahan.
Scarlets: D. Evans, Daniel, King, J. Davies, Maule, Newton, Roberts, I. Thomas, Phillips, R. Thomas, Cooper, Reed, McCusker, J. Edwards, Morgan.
Eilyddion: G. Davies am Roberts (66), Lawrence am Phillips (66), Gardner am R. Thomas (60), Fa'amatuainu am Cooper (66), Cudd am J. Edwards (60).
Heb eu defnyddio: O. Evans, O. Williams, Reynolds.
Torf: 1,500