BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Chwefror 2011

Dreigiau 30-22 Caeredin

Tri chais mewn 10 munud ar ddiwedd yr hanner cyntaf gosododd y sylfaen am fuddugoliaeth gyda phwynt bonws i'r Dreigiau yng Nghynghrair Magners.

Jason Tovey, Lewis Evans ac Ashley Smith groesodd llinell gais yr ymwelwyr, gan sicrhau mantais o 22-10 ar yr hanner.

Cafwyd dau gais o fewn yn 10 munud agoriadol wrth i brop y Dreigiau Phil Price ymateb i sgôr Lee Jones i Gaeredin wedi tri munud yn unig.

Cais Andrew Coombs a gôl gosb Tovey yn 10 munud gyntaf yr ail hanner oedd unig sgôr y tîm cartref wedi'r egwyl.

Sgoriodd Caeredin ddau gais arall - y gyntaf gan Tim Visser a'r ail yn y funud olaf gan Geoff Cross - ond doedd hynny ddim yn ddigon i fachu pwynt bonws.

Dyma oedd fuddugoliaeth o'r bron i'r Dreigiau yn y gynghrair, a'r cyntaf ers i Darren Edwards gael ei benodi'n hyfforddwr dros dro ers ymadawiad Paul Turner.


Dreigiau: Harries, Hughes, Watkins, Smith, A. Brew, Tovey, W. Evans, Price, Willis, Way, Morgan, Sidoli, Coombs, L. Evans, Bearman.
Eilyddion: Burns, Gustafson, Palmer, Brown, H. Ellis, Leach, Petri, M. Jones.

Edinburgh: Paterson, L. Jones, Cairns, Houston, Visser, D. Blair, Laidlaw, Traynor, Kelly, G. Cross, Hamilton, MacKenzie, Newlands, MacDonald, Talei.
Eilyddion: Walker, Niven, Young, Lozada, Grant, King, Webster, Thompson.

Dyfarnwr: Alan Falzone (Yr Eidal).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy