Daeth 15 o'r pwyntiau hynny yn yr ail hanner er gwaethaf amgylchiadau anodd i gicio yng ngwynt a glaw Glasgow.
Cais Tom James wedi chwarter awr oedd uchafbwynt gêm o daclo ffyrnig wrth i'r asgellwr redeg yn glir o 60 metr wedi camdrafod Glasgow.
Pum gôl gosb o droed Duncan Weir - gyda phedair o'r rheiny yn dod yn yr hanner cyntaf, oedd patrwm sgorio'r tîm cartref, ond gweithiodd amddiffyn y Gleision yn hynod o galed i ffrwyno bygythiad.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Gleision uwchben y Scarlets i'r trydydd safle yng Nghynghrair Magners.
Glasgow: Stortoni, O'Hare, Aramburu, Murchie, van der Merwe, Weir, Gregor, Grant, Thomson, Kalman, Muldowney, Ryder, Harley, Forrester, Beattie.
Eilyddion: Shaw am O'Hare (70), Pyrgos am Weir (68), Welsh am Grant (63), Gillies am Thomson (70), Tkachuk am Kalman (40), Fusaro am Forrester (77),
Wilson am Beattie (65).
Heb ei ddefnyddio: Horne.
Gleision Caerdydd: Fish, Mustoe, Evans, Hewitt, James, Sweeney, Slater, Filise, Thomas, Andrews, Griffiths, Tito, Pretorius, Molitika, M. Williams.
Eilyddion: Downes am Slater (66), G. Williams am Thomas (63), D. Jones am Griffiths (49), Rush am Molitika (49).
Heb eu defnyddio: Hobbs, Trevett, L. Williams, Loxton.
Torf: 1,917
Dyfarnwr: Dudley Phillips (RFU).