Roedd hi'n ymddangos fod cais Aled Brew a chicio cywir Jason Tovey yn mynd i fod yn ddigon i'r rhanbarth ennill am y tro cyntaf mewn deg gêm yn y gystadleuaeth, wrth i'r Dreigiau fynd ar y blaen 16-6 yn gynnar yn yr ail hanner.
Ond, tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda chais gan y mewnwr, Colin Gregor, a chwpwl gan yr asgellwr o Ganada, DTH van der Merwe.
Yn y gêm arall yn grŵp 6, enillodd Wasps yn erbyn Toulouse o 21- 16.
Yn rownd yr wyth olaf, bydd Northampton yn cwrdd ag Ulster gyda Leinster gartref yn erbyn Caerlŷr.
Mae cryfder y clybiau o Ffrainc yn y gystadleuaeth yn cael ei danlinellu gan y ffaith fod Perpignan yn cwrdd â Toulon, a Biarritz yn wynebu Toulouse yn y ddwy gêm arall.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 8-10 Ebrill.
Dreigiau: Will Harries, Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Aled Brew, Jason Tovey; Wayne Evans; Phil Price, Thomas Willis (capt), Ben Castle, Luke Charteris, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Eilyddion: Steve Jones, Gethin Robinson, Pat Palmer, Scott Morgan, Lewis Evans, James Leadbeater, Pat Leach, Mathew Jones.
Glasgow Warriors: Bernardo Stortoni, Colin Shaw, Federico Aramburu, Peter Murchie, DTH van der Merwe, Ruaridh Jackson, Colin Gregor, Jon Welsh, Dougie Hall, Moray Low, Aly Muldowney, Alastair Kellock (capt), Robert Harley, Richie Vernon, Ryan Wilson.
Eilyddion: Fergus Thomson, Ryan Grant, Kevin Tkachuk, Paul Burke, Chris Fusaro, Henry Pyrgos, Peter Horne, Hefin O'Hare.
Dyfarnwr: John Paul Doyle (Lloegr)