BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 23 Ionawr 2011

Perpignan 37-5 Scarlets

Chwalwyd gobeithion y Scarlets o gyrraedd rownd yr wyth olaf o'r Gwpan Heineken, wrth i Perpignan sgorio pum cais mewn gêm unochrog.

Florian Cazenave yn croesi am gais i Perpignan

Croesodd Jerome Porical a Henry Tuilagi geisiau yn y deg munud i'r tîm cyn cartref cyn i Farid Sid ychwanegu trydedd cais wyth munud cyn yr egwyl.

Roedd y tîm cartref wedi agor bwlch o 22 pwynt ar yr egwyl cyn i Jonathan Davies sgorio cais yn gynnar yn yr ail hanner.

Ond, cafodd unrhyw obaith o weld y Scarlets yn brwydro'n ôl eu dinistrio munudau'n ddiweddarach

Fe dorrodd canolwr Maxime Mermoz drwy'r amddiffyn, cyn bwydo Florian Cazenave, dyma'n sicrhau'r fuddugoliaeth a'r pwynt bonws i Perpignan.

Fel petai hynny ddim yn ddigon, cafodd prop y Scarlets, Simon Gardiner, ei gario o'r maes, yn dioddef anaf drwg i'w goes.

Roedd gwaith adeiladol a arweiniodd at bumed cais y tîm cartref yn tanlinellu'r bwlch mewn safon rhwng y ddau bac. Yr eilydd, Gerrie Britz, aeth drosodd i sgorio.

Roedd y canlyniad yn golygu na fydd yr un o ranbarthau Cymru yn rownd yr wyth olaf o'r Gwpan am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.


Perpignan: J Porical, F Sid, D Marty, M Mermoz, J Candelon, N Laharrague, F Cazenave, P Freshwater, G Guirado, N Mas [capt], O Olibeau, G Vilaceca, D Chouly, B Guiry, H Tuilagi.
Eilyddion: M Tincu, K Pulu, B Bourrust, R Tchale Watchou, D Mele, G Britz, O Tonita, J Michel

Scarlets: Rhys Priestland, Morgan Stoddart, Gareth Maule, Jon Davies, Sean Lamont, Stephen Jones, Tavis Knoyle, Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Simon Gardiner, Lou Reed, Jonny Fa'amatuaniu, Rob McCusker, Josh Turnbull, David Lyons.
Eilyddion: Emyr Phillips, Rhodri Jones, Phil John, Damian Welch, Ben Morgan, Martin Roberts, Lee Williams, Richie Pugh.

Dyfarnwr: Dave Pearson (Lloegr)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy