BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Ionawr 2011

Scarlets 18-32 Caerlŷr

Talodd y Scarlets y pris am fethu â manteisio ar eu cyfleoedd yn yr hanner cyntaf wrth i Gaerlŷr daro yn ôl i ennill gêm lawn cyffro yng Nghwpan Heineken.

Roedd y tîm cartref 13-9 ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner wrth i ail gôl gosb Stephen Jones ychwanegu at gais gwych Morgan Stoddart cyn yr egwyl.

Aeth Gareth Maule a Simon Gardner yn agos iawn at gyrraedd llinell gais yr ymwelwyr mewn cyfnod llewyrchus tua diwedd yr hanner cyntaf, ac anaml iawn mae'r Tigers yn rhoi ail gyfle i unrhyw dîm.

Ar ôl y cyfnod sigledig yna, daeth nerth Caerlŷr ymysg y blaenwyr i'r amlwg wrth i'r Scarlets gael trafferth i ennill pêl yn y chwarae gosod ac yn ardal y dacl.

Ac unwaith croesodd Alesana Tuilagi am gais gyntaf yr ymwelwyr yn y gornel wedi 50 munud, un canlyniad oedd yn debygol.

Sgoriodd Ben Youngs gais yn yr un gornel 10 munud yn ddiweddarach, a chyfunodd y pac yn nerthol i hyrddio'r eilydd Steve Mafi drosodd dau funud o'r diwedd.

Llwyddodd Toby Flood i drosi a chymryd ei sgôr bersonol i 17, ond aeth y gair olaf i'r Scarlets wrth i Sean Lamont gasglu cic uchel Jones i ddeifio drosodd yn y gornel dde.

Mae'r canlyniad yn gweld y Scarlets yn disgyn o frig y tabl i'r trydydd safle, wrth i Gaerlŷr ymuno gyda Perpignan yn y prif safle gydag un gêm yn weddill.

Er mwyn symud ymlaen i rownd yr wyth olaf, bydd angen i'r Scarlets ennill yn Ffrainc y penwythnos nesaf a gobeithio am fuddugoliaeth i Treviso yng Nghaerlŷr.


Scarlets: R Priestland, M Stoddart, G Maule, J Davies, S Lamont, S Jones, T Knoyle, I Thomas, M Rees (Capt), S Gardner, L Reed, V Cooper, R McCusker, J Turnbull, D Lyons.
Eilyddion: E Phillips, R Jones, P John, J Fa'amatuainu, B Morgan, R Pugh, M Roberts, D Evans.

Caerlŷr: S Hamilton, M Smith, M Tuilagi, A Allen, A Tuilagi, T Flood, B Youngs, M Ayerza, G Chuter, M Castrogiovanni, L Deacon (Capt), G Skivington, T Waldrom, C Newby, J Crane
Eilyddion: R Hawkins, B Stankovich, D Cole, E Slater, S Mafi, J Grindal, J Staunton, H Agulla

Dyfarnwr: Alain Rolland (IRFU).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy