Sgoriodd y capten Thierry Dusautoir gais ym mhob hanner, gyda Vincent Clerc hefyd yn croesi yn yr hanner cyntaf.
Taflodd y Ffrancwyr bopeth at y Dreigiau wrth edrych am y pedwerydd cais a fyddai wedi sicrhau pwynt bonws, ond safodd yr ymwelwyr yn gryf i'w cadw allan.
Cic cosb Jason Tovey yn yr hanner cyntaf oedd unig bwyntiau'r Dreigiau, oedd eisoes allan ohoni yn y frwydr i gyrraedd yr wyth olaf ar ôl colli'r pedair gêm flaenorol.
Toulouse: M Medard; V Clerc; Y Jauzion, C Poitrenaud, C Heymans; D Skrela, N Vergallo; J Poux, V Lacombe, C Johnston, G Lamboley, P Albacete, J Bouilhou, T Dusautoir (c), S Sowerby.
Eilyddion: W Servat, D Human, Y Montes, Y Maestri, J Doussain, F Fritz, S Nicolas, V Delasau.
Dragons: W Harries, N Brew, A Hughes, A Smith, A Brew, J Tovey, W Evans; P Price, T Willis (c), B Castle, L Charteris, S Morgan, D Lydiate, G Thomas, T Faletau.
Eilyddion: S Jones, G Robinson, P Palmer, R Sidoli, L Evans, J Leadbeater, P Leach, M Jones.
Dyfarnwr: Mr Peter Fitzgibbon (IRFU).