BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 06 Ionawr 2011

Leinster 15-10 Gweilch

Er ymhell o fod ar eu cryfaf fe ddychwelodd y Gweilch o Faes y Sioe yn Nulyn gyda phwynt bonws haeddiannol a dim ond y ffaith i Dan Biggar fethu pum cyfle at y pyst wnaeth eu hatal rhag cipio'r fuddugoliaeth.

Justin Tupuric yn tirio am gais yn erbyn Leinster

Yr ymwelwyr sgoriodd unig gais y gem pan fanteisiodd Justin Tupric ar y dryswch yn amddiffyn y Gwyddelod i dirio o dan y pyst yn ei gem gyntaf fel capten ar y rhanbarth.

Diolch i'r trosiad gan Biggar a chic gosb yr oedd y maswr eisoes wedi trosi yn y munudau cyntaf, y Gweilch oedd ar y blaen ar yr egwyl er i Jonathan Sexton lwyddo gyda thair cic gosb.

Er yn gystadleuol yn y chwarae rhydd roedd y gweilch o dan bwysau yn y mannau gosod, gyda'r llinell yn enwedig yn destun gofid wrth iddyn nhw golli'r meddiant ar dafliad eu hunain ar wyth achlysur.

Ac wrth i Biggar weld un ymdrech ar ôl y llall yn methu fe fanteisiodd Leinster ar ei haelioni gyda Sexton yn gywir ei annel gyda dwy ymgais lwyddiannus at y pyst i sicrhau'r fuddugoliaeth.


Leinster: Luke Fitzgerald; Shane Horgan, Brian O'Driscoll, Gordon D'Arcy, Fergus McFadden; Jonathan Sexton, Eoin Reddan; Cian Healy, Richardt Strauss, Mike Ross, Leo Cullen (capt), Devin Toner, Dominic Ryan, Shane Jennings, Jamie Heaslip.
Eilyddion: Jason Harris-Wright, Heinke van der Merwe, Clint Newland, Nathan Hines, Rhys Ruddock, Isaac Boss, Ian Madigan, Eoin O'Malley/Isa Nacewa.

Gweilch: Barry Davies; Nikki Walker, Sonny Parker, Ashley Beck, Richard Fussell; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Huw Bennett, Craig Mitchell, Ian Gough, Ian Evans, Tom Smith, Justin Tipuric (capt), Ryan Jones.
Eilyddion: Mefin Davies, Ryan Bevington, Cai Griffiths, James Goode, Jonathan Thomas, Jamie Nutbrown, Tom Prydie, Gareth Owen.

Dyfarnwr: Nigel Owens (URC).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy