BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 06 Ionawr 2011

Dreigiau 17-16 Connacht

Enillodd y Dreigiau o drwch blewyn wedi gêm gystadleuol ond llawn camgymeriadau yn erbyn Connacht gan dirio am ddau gais disglair yn yr hanner i gadw eu tymor yng Nghynghrair Magners yn fyw.

Fe ddaeth y cais cyntaf y Dreigiau wedi tair munud pan gyfunodd Tom Riley gydag Aled Brew i ganiatáu'r asgellwr i dirio.

Ychwanegodd y maswr Jason Tovey y trosiad ond fe fethodd ddau gynnig pellach at y pyst cyn i Ian Keatley dorri'r fantais pan lwyddodd gyda gôl gosb wedi 23 munud.

Ac fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi hanner awr pan dorrodd Eoin Griffin trwy sawl ymgais i'w daclo cyn rhyddhau'r Kiwi Troy Nathan i dirio am gais yn y gornel gafodd ei drosi gan Keatley.

Ond yn ol daeth y dreigiau bron yn syth gyda Riley y tro yma yn gorffen y symudiad wedi gwaith da gan Will Harries a Nathan Brew.

Diolch i drosiad Tovey roedd y tîm cartref 14-10 ar y blaen ond fe gosbwyd blaenwyr y Dreigiau munud cyn yr egwyl gan alluogi Keatley i gau'r bwlch.

Dirywio gwnaeth safon y chwarae wedi'r egwyl gyda chamgymeriadau di ri' gan y ddau dîm yn amharu ar lif y chwarae.

Er i gol gosb Keatley i adfer y fantais o blaid y Gwyddelod wedi deg munud fe atebodd Tovey gyda'i ymgais ei hun ar yr awr i sicrhau'r fuddugoliaeth.


Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Aled Brew; Jason Tovey, Jonathan Evans; Hugh Gustafson, Tom Willis (capt), Ben Castle, Adam Jones, Rob Sidoli, Lewis Evans, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Eilyddion: Steve Jones, Pat Palmer, Phil Price, Luke Charteris, Andrew Coombs, Matthew Jones, Mike Petri, Patrick Leach

Connacht: Ian Keatley; Troy Nathan; Eoin Griffin, Keith Matthews (c); Fionn Carr; Miah Nikora, Cillian Willis; Brett Wilkinson, Sean Cronin, Jamie Hagan, Michael Swift, Michael McCarthy, Andrew Browne, Johnny O'Connor, Eoin McKeon
Eilyddion: Adrian Flavin, Rodney Ah You, Dylan Rogers, Bernie Upton, Mike McComish, Frank Murphy, Niva Ta'auso, Brian Tuohy

Dyfarnwr: Alan Lewis (Iwerddon).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy