BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 01 Ionawr 2011

Scarlets 21-15 Dreigiau

Mae'r Scarlets wedi codi i'r ail safle yng Nghynghrair Magners ar ôl i ddau gais yn yr ail hanner sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau.

Y tîm cartref reolodd yr hanner cyntaf o ran meddiant a thiriogaeth, ond tri phwynt o droed Rhys Priestland oedd eu hunig wobr am yr holl bwyso.

A syfrdanwyd y cefnogwyr cartref pan groesodd Wayne Evans am gais i'r Dreigiau eiliadau cyn hanner amser i agor mantais o 3-10.

Evans ei hun ddechreuodd y symudiad wrth gymryd cic gosb sydyn yn ddwfn yn hanner ei hun, ac yna casglodd y mewnwr gic letraws Jason Tovey i sgorio yng nghysgod y pyst.

Daeth y sgôr gydag asgellwr y Dreigiau, Aled Brew, yn eistedd yn y gell gosb.

Serch hynny, ymatebodd y Scarlets yn wych wedi'r toriad wrth i Gareth Maule fanteisio ar gainc yn amddiffyn yr ymwelwyr i sgorio.

Trosodd Priestland, cyn i'w ail gôl gosb roi'r Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wedi 46 munud o chwarae.

Roedd gwell i ddod gan y maswr pan orffennodd symudiad slic ymysg yr olwyr i agor mantais o wyth pwynt gydag wyth munud yn weddill.

Ond roedd y canlyniad yn y fantol unwaith eto pedwar munud yn ddiweddarach pan gasglodd Brew gic Tovey i groesi yn y gornel chwith am ail gais y Dreigiau.

Disgyn yn fyr wnaeth ymdrech y maswr i ychwanegu'r ddau bwynt, a doedd dim ffordd yn ôl i'r ymwelwyr pan lwyddodd Priestland gyda gôl gosb o bell gyda dau funud yn weddill.


Scarlets: Dan Newton; Morgan Stoddart, Gareth Maule, Jon Davies, Sean Lamont; Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Phil John, Vernon Cooper, Jonny Fa'amatuainu, Rob McCusker, Josh Turnbull, David Lyons.
Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Simon Gardiner, Damian Welch, Ben Morgan, Martin Roberts, Regan King, Lee Williams.

Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Tom Willis (capt), Ben Castle, Luke Charteris, Scott Morgan, Dan Lydiate, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Elyddion: Steve Jones, Pat Palmer, Phil Price, Adam Jones, Lewis Evans, Patrick Leach, Jonathan Evans, Matthew Jones.

Dyfarnwr: Tim Hayes (URC).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy