BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 27 Rhagfyr 2010

Gweilch 60-17 Scarlets

Mae'r Gweilch wedi codi i'r ail safle yng Nghynghrair Magners ar ôl chwalu'r Scarlets ym mrwydr y gorllewin yn Stadiwm Liberty.

James Hook yn croesi am gais agoriadol y Gweilch

Manteisiodd y Gweilch ar ddiffyg disgyblaeth gan y Scarlets i groesi am saith cais a sicrhau pwynt bonws.

Y maswr Dan Biggar oedd seren y tîm cartref gan gyfrannu 26 o bwyntiau, oedd yn cynnwys cais mewn gornest un ochrog.

Yr oedd y gêm wedi cael ei ail threfnu ar gyfer prynhawn Llun yn dilyn gohiriad hwyr ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd y gêm ei gohirio am resymau iechyd a diogelwch oherwydd bod pibellau dŵr yn Stadiwm Liberty wedi rhewi.

Yr ymwelwyr gafodd y dechrau delfrydol gyda chic hyfryd Rhys Priestland yn sicrhau tri phwynt wedi pum munud.

Roedd y Gweilch yn gyfartal bedwar munud yn ddiweddarach gyda Dan Biggar yn llwyddo gyda chic gosb llawer haws.

Sicrhaodd Biggar cant o bwyntiau am y tymor wrth i'w gic gosb lwyddiannus wedi 13 munud roi'r tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Cynnig cywrain arall gan Biggar welodd y Gweilch yn agor bwlch o chwe phwynt gyda 18 munud ar y cloc.

Daeth y cais agoriadol wedi 24 munud gyda James Hook yn croesi yn y gornel i ymestyn mantais y tîm cartref.

Pas wych Tommy Bowe dyma'n canfod Hook ar yr asgell chwith ac ni lwyddodd Morgan Stoddart a Sean Lamont i rwystro canolwr Cymru.

Cadarnhaodd y dyfarnwr fideo bod y cais yn ddilys ac er methodd Biggar gyda'r trosiad, roedd y Gweilch yn deilwng ar y blaen o 14-3.

Ar ôl methu a throsi'r cais roedd Biggar yn llwyddiannus gyda gôl gosb rhwydd o flaen y pyst gyda saith munud o'r hanner cyntaf yn weddill.

Roedd amser yn weddill i Biggar i sgorio ei bumed gôl gosb o'r prynhawn wrth i'r Gweilch gyrraedd yr ugain pwynt.

Ni chafodd y Scarlets y dechrau gorau i'r ail hanner gyda Martin Roberts yn derbyn y cerdyn melyn am regi at y dyfarnwr James Jones.

Gyda'r Scarlets dyn yn brin fe fanteisiodd y Gweilch ac wedi cyfnod yn pwyso fe groesodd Jonathan Thomas am gais yn y cornel, gyda Biggar yn trosi.

Roedd y Scarlets yn awr yn cwrso'r gêm ond ar ôl i Priestland weld y bêl yn adlamu i ddwylo Biggar fe fanteisiodd y maswr dyma'n rhedeg hanner hyd y maes cyn croesi am drydedd cais ac yna'n trosi'n llwyddiannus.

Serch hynny roedd yr ymwelwyr i daro'n ôl gyda Gareth Maule yn croesi yn y gornel yn dilyn rhediad grymus gan Lamont.

Llwyddodd Priestland gyda'r trosiad i ddod o fewn dau bwynt i gant o bwyntiau am y tymor.

Sean Lamont oedd yr ail chwaraewr o'r Scarlets i dderbyn y cerdyn melyn gyda'r dyfarnwr o'r farn i'r Albanwr ddefnyddio ei ben-lin yn uchel yn y dacl ar Mike Phillips.

A tra roedd Lamont yn y gell gosb roedd y Gweilch i sgorio cais arall gyda Richard Fussell yn croesi am gais unigol gwych, ei chweched o'r tymor, i hawlio'r pwynt bonws.

Fe ychwanegodd Biggar ddau bwynt arall at gyfanswm y Gweilch, oedd bellach ar y blaen 39-10.

Roedd y llifddorau bellach ar agor wrth i Tommy Bowe frasgamu'n hyderus cyn tirio'r bêl yn y gornel am bumed cais y Gweilch gyda Biggar yn trosi.

Bu'n rhaid i'r dyfarnwr James Jones ymgynghori gyda'r dyfarnwr fideo er mwyn cadarnhau chweched cais y Gweilch, sgoriwyd gan Paul James.

James Hook, yn hytrach na Biggar, dyma'n ymgymryd â'r dyletswyddau cicio ond yr un oedd y canlyniad gyda'r trosiad yn llwyddiannus.

Roedd y tîm cartref hefyd yn euog o ddiffyg disgyblaeth wrth i'r eilydd Ian Evans gael ei yrru i'r gell gosb am ddefnydd anghyfreithlon o'r droed.

Roedd y Scarlets i sgorio ail gais yn hwyr yn y gêm, gyda chais Jonny Fa'amatuainu yn cael ei throsi gan Priestland.

Ond y Gweilch gafodd y gair olaf gyda'r eilydd Jamie Nutbrown yn sleifio drwy amddiffyn bregus y Scarlets i groesi am seithfed cais gyda Hook yn ei throsi.



Gweilch: Barry Davies; Nikki Walker, Tommy Bowe, James Hook, Richard Fussell; Dan Biggar, Mike Phillips; Duncan Jones, Richard Hibbard, Adam Jones, Ryan Jones, Alun Wyn Jones (capt), Jerry Collins, Marty Holah, Jonathan Thomas.
Eilyddion: Huw Bennett, Paul James, Craig Mitchell, Ian Evans, Justin Tipuric, Jamie Nutbrown, Andrew Bishop, Sonny Parker.

Scarlets: Dan Newton; Morgan Stoddart, Gareth Maule, Regan King, Sean Lamont; Rhys Priestland, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Simon Gardiner, Jonny Fa'amatuainu, Dominic Day, John Turnbull, Jonathan Edwards, Ben Morgan.
Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Phil John, Rob McCusker, David Lyons, Tavis Knoyle, Jonathan Davies, Lee Williams.

Dyfarnwr: James Jones (URC)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy