Cyfartal 9-9 oedd y sgôr ar yr hanner yn dilyn tari gôl gosb yr un i Dan Parks a Stephen Myler, ond roedd hynny'n cuddio'r ffaith mai'r Gleision oedd wedi ymosod bron yn ddi-baid gyda'r bêl yn eu dwylo. Gwastraffwyd sawl agoriad i groesi am gais, ond fe ddaeth y sgôr haeddiannol o'r diwedd wedi pedwar munud o'r ail hanner pan diriodd Richard Mustoe wedi bylchiad arbennig Casey Laulala. Trosodd Blair i agor saith pwynt o fantais, ond profodd y 10 munud nesaf i fod yn gostus iawn i'r tîm cartref wrth golli Bradley Davies i'r gell gosb cyn i brynhawn Xavier Rush ddod i ben wrth weld cerdyn coch am dacl uchel. Manteisiodd yr ymwelwyr ar y ddau drosedd yna wrth i Myler ychwanegu chwe phwynt arall gyda'i droed. Aeth y Saints ar y blaen wedi awr o chwarae gyda chweched gôl gosb, ond ymatebodd y Gleision yn syth wrth i Parks lwyddo gyda gôl adlam o flaen y pyst. Northampton oedd bellach y tîm mwyaf peryglus gyda'r bêl yn eu dwylo, gyda cefnwr Ben Foden yn bylchu ar sawl achlysur. A rhediad nerthol arall gan Foden arweiniodd at y gais dyngedfennol i Calum Clarke, ond roedd mwy nag ychydig o amheuaeth ynglŷn a'r sgôr. Cafodd yr eilydd ei ddal modfeddi'n brin o'r llinell cyn iddo geisio ymestyn eto am y llinell. Roedd hi'n ymddangos bod llaw un o'r Gleision o dan y bêl, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo fod y cais yn ddilys. Daeth llygedyn o obaith i'r Gleision wrth i Clarke dderbyn gerdyn melyn gyda tri munud i fynd, ond roedd hi ar ben i dîm Dai Young pan lithrodd y bêl o afael Maama Molitika mewn safle ymosodol addawol.
 |