BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 19 Rhagfyr 2010

Wasps 37-10 Dreigiau

Mae gobeithion y Dreigiau yng Nghwpan Heineken ar ben am dymor arall ar ôl i'r ymwelwyr fynd ar chwâl wrth ildio tri chais mewn wyth munud ym Mharc Adams.

Roedd hi'n gyfartal 3-3 ar yr egwyl wedi hanner cyntaf i'w anghofio; Dave Walder a Matthew Jones yn llwyddo gyda gôl gosb yr un.

Ond daeth cais gyntaf y gêm wedi pedwar munud o'r ail hanner wrth i Joe Ward groesi a dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny.

Turiodd Mark Van Gisbergen wedi 65 munud, ac roedd y cefnogwyr cartref oedd wedi brwydro drwy'r eira yn dathlu eto pum munud yn ddiweddarach diolch i gais Tom Varndell.

Prin fod y cefnogwyr wedi setlo yn ôl yn ei seddi cyn i Nic Berry groesi i sicrhau pwynt bonws i Wasps.

Llwyddodd Walder i drosi am y bedwerydd tro, i ychwanegu at y ddwy gôl gosb aeth drwy'r pyst yn fuan yn yr ail hanner.

Ychydig iawn o gysur a ddaeth i'r Dreigiau wrth weld Aled Brew yn croesi am gais, a daeth diwedd ar y sgorio pan drosodd Jones.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Wasps i frig Grŵp 6 am y tro, gyda Toulouse, sy'n ail, yn croesawu Glasgow nos Fawrth.


Wasps: van Gisbergen, Varndell, Jacobs, Kefu, Lemi, Walder, Simpson, Taulafo, Ward, Broster, Shaw, Cannon, Worsley, Betsen Tchoua, Powell.
Eilyddion: Flutey am Kefu (60), Berry am Simpson (67), Haughton am Ward (67), Baker am Broster (68), Veale am Worsley (70).
Heb eu defnyddio: Lindsay, Ruwers, Matthews.

Dreigiau: Leach, Hughes, Riley, Smith, A. Brew, M. Jones, W. Evans, Gustafson, S. Jones, Castle, Charteris, Morgan, L. Evans, G. Thomas, Faletau.
Eilyddion: Cheeseman am Hughes (75), Leadbeater am W. Evans (71), Burns am S. Jones (54), Sidoli am Charteris (41), Lydiate am Faletau (52).
Heb eu defnyddio: Robinson, Palmer, N. Brew.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy