Mae'r pum pwynt yn codi tîm Nigel Davies i frig Grŵp 5 am y tro, gyda Chaerlŷr, sy'n ail, yn croesawu Perpignan brynhawn Sul.
Ar ôl rheoli'r hanner cyntaf am gyfnodau hir, roedd y Scarlets mewn sefyllfa gref wrth i'r egwyl nesáu diolch i geisiau Dominic Day wedi hanner awr ac un Dan Newton dau funud cyn hanner amser.
Ond ildiodd yr ymwelwyr gais yn syth o'r ailddechrau pan duriodd Robert Barbieri i Treviso wedi sawl hyrddiad pwerus gan y blaenwyr.
Ychwanegodd Newton gôl gosb gynnar yn yr ail hanner i ymestyn mantais y Scarlets i 10-21, ond tarodd y tîm cartref yn ôl unwaith eto gyda chais yr eilydd Marco Filippucci.
Roedd rhagor o bryder i'r ymwelwyr pan welodd Vernon Cooper gerdyn melyn, ond fe gymerodd y Scarlets gam mawr tua'r fuddugoliaeth wrth i'r canolwr Gareth Maule ymestyn dros y llinell i sgorio trydydd cais ei dîm wedi awr o chwarae.
Llwyddodd Priestland i drosi, gan ychwanegu at ei drosiad blaenorol a'i ddwy gôl gosb yn yr 20 munud cyntaf, i agor bwlch o 13 pwynt gyda 20 munud yn weddill.
Doedd dim ffordd yn ôl i'r Eidalwyr pan lwyddodd y maswr gyda gôl gosb arall yn y 10 munud olaf, a daeth y pwynt bonws haeddiannol wedi 77 munud pan groesodd Jonny Fa'amatuainu am y pedwerydd cais.
Benetton Treviso: L McLean; J Maddock, T Benvenuti, A Sgarbi, A Vilk; W de Waal, E Gori; I Fernandez Rouyet, E Ceccato, L Cittadini, A Pavanello (c), C van Zyl, R Barbieri, A Zanni, M Vosawai.
Eilyddion: F Sbaraglini, M Muccignat, P di Santo, V Bernabò, M Filippucci, F Semenzato, B Williams, K Burton.
Scarlets: Dan Newton; Morgan Stoddart, Gareth Maule, Regan King, Sean Lamont; Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Ken Owens, Simon Gardiner, Vernon Cooper, Dominic Day, Josh Turnbull, Johnathan Edwards (c), Ben Morgan.
Eilyddion: Emyr Phillips, Rhodri Jones, Phil John, Jonny Fa'amatuainu, Rob McCusker, Martin Roberts, Scott Williams, Lee Williams.
Referee: JP Doyle (Lloegr).