Mewn gêm a gafodd ei symud I Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd bod maes Rodney Parade wedi rhewi fe hawliodd y Dreigiau bwynt bonws er colli.
Roedd tîm Paul Turner ar y blaen o 10-0 yn gynnar yn y gêm diolch i gais Ashley Smith a chicio cywrain Jason Tovey.
Wedi i Dave Walder sicrhau pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr fe groesodd Ben Jacobs am gais i Wasps - er bod amheuaeth y cafodd y bêl ei phasio ymlaen.
Llwyddodd Walder gyda'r trosiad i ddod â'r Wasps yn gyfartal cyn i gic gosb a gôl adlam Tovey adfer mantais y Dreigiau.
Cafodd prop y Dreigiau Nigel Hall ei gludo o'r maes ar stretsier gydag anaf i'w bigwrn cyn i Walder lwyddo gyda'i ail gic gosb i gau'r bwlch.
Fe aeth y Wasps ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn gynnar yn yr ail hanner gyda David Lemi yn croesi ar gyfer cais na chafodd ei throsi.
Roedd ergyd arall i'r Dreigiau gyda Tovey yn gorfod gadael y maes ar ôl dioddef anaf yn ystod y symudiad arweiniodd at y cais.
Matthew Jones ddaeth ymlaen yn lle Tovey ac fe fethodd gyda chic gosb o bell fyddai wedi lleihau mantais Wasps.
Wedi cyfnod yn pwyso roedd hi'n anochel i'r ymwelwyr sgorio trydydd cais gyda Tom Varndell yn croesi wedi 55 munud.
Y Dreigiau orffennodd y gêm y cryfa' o'r ddau dîm ond doedd dim modd rhwystro'r ymwelwyr rhag sicrhau eu pumed buddugoliaeth o'r fron.
Dreigiau: P Leach, A Hughes, T Riley, A Smith (c), A Brew; J Tovey, W Evans; P Price, L Burns, N Hall, A Jones, R Sidoli, L Evans, G Thomas, T Faletau.
Eilyddion: S Jones, H Gustafson, B Castle, S Morgan, H Ellis, J Leadbeater, W Harries, M Jones.
Wasps: Mark Van Gisbergen; Tom Varndell, Ben Jacobs (capt), Steve Kefu, David Lemi; Dave Walder, oe Simpson; Zak Taulafo, Joe Ward, Ben Broster, Simon Shaw, James Cannon, Joe Worsley, Serge Betsen, Andy Powell.
Eilyddion: Tom Lindsay, Shaun Ruwers, Bob Baker, Marty Veale, Dan Ward-Smith, Nic Berry, Seb Jewell, Richard Haughton.
Dyfarnwr: Peter Allan (Yr Alban).