BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 11 Rhagfyr 2010

Northampton 23-15 Gleision Caerdydd

Parhau y mae record gant y cant Northampton yng Nghwpan Heineken y tymor hwn wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Gleision yn Franklin's Gardens.

Casey Laulala

Yr ymwelwyr oedd wedi bod ar y blaen 12-10 ar yr egwyl diolch i gicio cywrain gan y maswr Dan Parks.

Gôl gosb Parks oedd wedi rhoi'r Gleision ar y blaen wedi pedwar munud yn unig o'r gêm yng ngrŵp 3.

Ond wedi cyfnod yn pwyso doedd hi ddim syndod i'r Seintiau sicrhau'r cais agoriadol wedi 20 munud.

Cyfunodd y mewnwr Ryan Powell gyda Paul Diggin cyn i'r asgellwr blymio yn y gornel i roi'r tîm cartref ar y blaen.

Fe drosodd Stephen Myler yn llwyddiannus ac roedd hi'n ymddangos mai dim ond mater o amser oedd hi cyn y byddai Northampton yn ychwanegu at eu cyfanswm.

Ond fe fanteisiodd y Gleision ar ddiffyg disgyblaeth gan y tîm cartref gyda Parks yn llwyddo gyda dwy gôl gosb i'r rhoi yn ôl ar y blaen.

Fe welodd James Downey gerdyn melyn am dacl uchel ar Tom James ac fe ymestynodd Parks fantais y Gleision i 12 pwynt.

Ond wrth i'r hanner ddirwyn i ben roedd y Gleision hefyd lawr i 14eg dyn gyda Taufa'ao Filise yn cael ei yrru i'r gell gosb

Gôl gosb lwyddiannus Myler oedd gweithred olaf yr hanner ac fe aeth y timau i mewn ar yr egwyl gyda'r Gleision ar y blaen 12-10.

Northampton fu'n rheoli wedi'r egwyl ac fe groesodd Chris Ashton am eu hail gais dau funud wedi'r ail ddechrau.

Fe droswyd y cais yn llwyddiannus gan Myler, dyma'n ychwanegu dwy gôl gosb at gyfanswm Northampton gyda chwarter awr yn weddill.

Roedd diffyg disgyblaeth gan y tîm cartref i arwain at Courtney Lawes yn cael ei yrru i'r gell gosb am ddeg munud ac fe ychwanegodd Parks ei bumed gôl gosb o'r gêm.

Fe orffennodd y gêm gyda'r ddau dîm yn brin o'u bachwyr gyda Gareth Williams a Dylan Hartley yn cael eu hanfon i'r gell gosb yn dilyn ffrwgwd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Northampton yn ymestyn eu mantais ar frig y grŵp, deuddeg pwynt yn glir o Castres dyma'n trechu Caeredin 21-16.


Northampton: Foden, Ashton, Clarke, Downey, Diggin, Myler, Powell, Tonga'uiha, Hartley (capt), Mujati, Lawes, Day, Dowson, Wood, Wilson.
Eilyddion: Sharman, Dreyer, Mercey, Sorenson, Clark, Dickson, Geraghty, Ansbro.

Gleision: Chris Czekaj; Richard Mustoe, Casey Laulala, Tom Shanklin, Tom James; Dan Parks, Richie Rees; Gethin Jenkins, Gareth Williams, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito (capten), Maama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush.
Eilyddion: Rhys Williams, Scott Andrews, John Yapp, Michael Paterson, Sam Warburton, Tom Slater, Ceri Sweeney, Gavin Evans.

Dyfarnwr: Mr Romain Poite (Ffrainc).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy