Croesodd Sean Lamont am geisiau yn y naill hanner i'r Scarlets, gollodd Stephen Jones drwy anaf yn ystod yr hanner cyntaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Scarlets yn gyfartal ar ddeg pwynt gyda Perpignan, oedd yn fuddugol yn erbyn Caerlŷr - y tîm ar frig grŵp 5.
Wedi munud a hanner fe gafodd y Scarlets y dechrau delfrydol gyda Lamont yn hollti amddiffyn yr Eidalwyr cyn croesi am gais, a droswyd gan Stephen Jones.
Ac roedd y Scarlets wedi gwneud hi'n 10-0 wedi pum munud yn unig gyda Jones yn llwyddiannus gyda gôl gosb.
Hawliodd yr ymwelwyr eu pwyntiau cyntaf o'r prynhawn gyda Chris Burton yn llwyddo gyda chic gosb rhwydd o flaen y pyst.
Ac roedd y bwlch hwnnw wedi ei leihau ymhellach pan sgoriodd Burton gyda chic adlam.
Roedd ergyd i'r Scarlets pan fu'n rhaid i'w maswr Stephen Jones adael y maes gydag anaf i'w ben-glin wedi prin ugain munud o'r gêm.
Ac o fewn eiliadau i'r ergyd hwnnw roedd Treviso ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wrth i'r canolwr Gonzalo Garcia groesi am gais.
Ychwanegodd y maswr Burton ddau bwynt arall i'w cyfanswm gyda throsiad llwyddiannus ac roedd y gêm wedi ei thrawsnewid.
Ond roedd y Scarlets i daro'n ôl bron yn syth gyda'r canolwr Regan King yn coroni symudiad gwych gyda chais o dan y pyst.
Hawliodd Rhys Priestland, oedd wedi ymgymryd â'r dyletswyddau cicio wedi ymadawiad Jones, ei bwyntiau cyntaf o'r prynhawn gan drosi'n llwyddiannus.
Roedd y Scarlets yn chwarae rygbi deniadol gan gadw'r bêl yn dda ac fe ychwanegodd Priestland dri phwynt arall i'w cyfanswm.
Ac wedi i Priestland ychwanegu gôl gosb arall, y tîm cartref oedd ar y blaen 23-13 ar yr egwyl.
Tri munud i mewn i'r ail hanner ac roedd y Scarlets wedi hawlio eu trydydd cais gyda'r olwyr yn cyfuno cyn i Josh Turnbull blymio o dan y pyst.
Fe drosodd Priestland y cais yn llwyddiannus ond tri munud yn ddiweddarach yn yr oedd yr ymwelwyr wedi croesi am eu hail gais o'r prynhawn.
Tommaso Benvenuti sgoriodd y cais cyn i Burton ychwanegu'r trosiad, ac roedd yr ymwelwyr yn bygwth taro'n ôl unwaith yn rhagor.
Ac fe dawelwyd y cefnogwyr cartref wedi munud pan groesodd yr ymwelwyr am eu trydydd cais gyda Fabio Semenzato yn sgorio.
Fe droswyd y cais yn wych gan Burton, ac roedd Treviso wedi cau'r bwlch i dri phwynt wedi chwarter awr o'r ail hanner.
Cipiodd y Scarlets bwynt bonws allweddol wrth i asgellwr yr Alban Lamont groesi am ei ail gais ac ar ôl methu dwy gic gosb flaenorol, ni lwyddodd Priestland gyda'r trosiad.
Roedd wyth pwynt yn gwahanu'r timau erbyn hyn ond bu'n rhaid i'r Scarlets amddiffyn am eu bywydau yn ystod y chwarter awr olaf.
Ac er i'r Scarlets ddal ymlaen i sicrhau'r fuddugoliaeth, fe fydd y perfformiad wedi rhoi hyder i'r Eidalwyr cyn y bydd y timau'n cwrdd y penwythnos nesaf.
Scarlets: Rhys Priestland; Morgan Stoddart, Gareth Maule, Regan King, Sean Lamont; Stephen Jones, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Simon Gardiner, Vernon Cooper, Dominic Day, Rob McCusker, Josh Turnbull, Ben Morgan.
Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Phil John, Jonny Fa'amatuainu, Johnathan Edwards, Martin Roberts, Dan Newton, Scott Williams.
Benetton Treviso: L McLean; T Benvenuti, A Pratichetti, G Garcia, A Vilk; K Burton, F Semenzato; M Muccignat, E Ceccato, P di Santo, A Pavanello (capt), V Bernabò, M Filippucci, B Vermaak , P Derbyshire.
Eilyddion: D Vidal, I Fernandez Rouyet, L Cittadini, C van Zyl, M Vosawai, E Galon, E Gori, J Maddock.
Dyfarnwr: Greg Garner (Lloegr).