BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 04 Rhagfyr 2010

Gweilch 33-16 Caeredin

Cais gwefreiddiol y blaenasgellwr ifanc Justin Tipuric oedd uchafbwynt buddugoliaeth gyfforddus y Gweilch yn erbyn tîm siomedig Caeredin.

Justin Tipuric yn groesi i'r Gweilch

Casglodd Tipuric ei gic ei hun dros yr amddiffyn, cyn ochrgamu heibio'r taclwr olaf i groesi wedi 24 munud.

Roedd Dan Biggar eisoes wedi llwyddo gyda phum gôl gosb cyn i'w drosiad llwyddiannus agor mantais o 22-3.

Ymatebodd Caeredin gyda dwy gôl gosb gan David Blair cyn yr egwyl, ond roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i'r tîm cartref wrth i Biggar ychwanegu chwe phwynt arall.

Daeth ail gais o'r diwedd pan groesodd Richard Fussell yn y gornel chwith gyda 10 munud yn weddill ar ôl i Mike Phillips gymryd cic gosb yn sydyn.

I Gaeredin aeth y gair olaf diolch i drosgais Tim Visser, ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau pwynt bonws am eu trafferth.


Gweilch: Lee Byrne; Nikki Walker, Andrew Bishop, Ashley Beck, Richard Fussell; Dan Biggar, Jamie Nutbrown; Duncan Jones, Richard Hibbard, Craig Mitchell, Alun Wyn Jones (capten), Ian Evans, Justin Tipuric, Marty Holah, Ryan Jones.
Eilyddion: Mefin Davies, Paul James, Adam Jones, Ian Gough, Jonathan Thomas, Mike Phillips, James Hook, Tommy Bowe.

Caeredin: Chris Paterson; Jim Thompson, Alex Grove, David Bishop, Tim Visser; David Blair, Mike Blair, Kyle Traynor, Andrew Kelly, Geoff Cross, Esteban Lozada, Fraser McKenzie, Netani Talei, Ross Rennie, Roddy Grant (capten).
Eilyddion: Ross Ford, Allan Jacobsen, David Young, Steven Turnbull, Alan MacDonald, Greig Laidlaw, John Houston, Lee Jones.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy