Yr ymwelwyr oedd ar y blaen 10-9 wedi hanner cyntaf cystadleuol gydag Andrew Conway yn croesi am gais.
Dan Biggar sgoriodd holl bwyntiau'r Gweilch yn ystod y deugain munud agoriadol ac fe dreuliodd Duncan Jones ddeg munud yn y gell gosb.
Llwyddodd Biggar gyda'i bedwaredd gic gosb i roi'r tîm cartref ar y blaen ond i gais gan Isa Nacewa adfer mantais Leinster.
Ond gyda Leinster lawr i 13 dyn wedi i Ian Madigan a Ed O'Donoghue gael eu danfon eu i'r gell gosb fe ddyfarnwyd cais gosb i'r Gweilch.
Fe gafodd yr asgellwr Conway ei gludo o'r maes ar stretsier gydag anaf i'w wddf yn yr ail hanner.
Gweilch: Barry Davies; Gareth Owen, Sonny Parker, Ashley Beck, Richard Fussell; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Richard Hibbard, Craig Mitchell, Ian Gough, Ian Evans, Justin Tipuric, Marty Holah, Jerry Collins (capt).
Eilyddion: Mefin Davies, Joe Rees, Cai Griffiths, James Goode, Tom Smith, Jamie Nutbrown, Matthew Morgan, Tom Isaacs.
Leinster: Isa Nacewa; Shane Horgan, Eoin O'Malley, Fergus McFadden, Andrew Conway; Ian Madigan, Isaac Boss; Heinke van der Merwe, Jason Harris-Wright, Clint Newland, Leo Cullen (capt), Ed O'Donoghue, Dominic Ryan, Shane Jennings, Stephen Keogh.
Eilyddion: Tom Sexton, Jack McGrath, Mike Ross, Eoin Sheriff, Rhys Ruddock, Paul O'Donohoe, Ian McKinley, Dave Kearney.
Dyfarnwr: John Lacey (IRFU).