BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 26 Tachwedd 2010

Dreigiau 20-6 Munster

Sicrhaodd y Dreigiau fuddugoliaeth nodedig ar Rodney Parade wrth iddynt drechu'r tîm ar frig Cynghrair Magners.

Tom Riley yn croesi am gais agoriadol y Dreigiau

Bu'n rhaid oedi'r gic gyntaf am chwarter awr gyda'r eira yn creu trafferthion i'r rhai hynny - yn gefnogwyr a swyddogion - oedd ar eu ffordd i Rodney Parade.

Daeth cyfle i Jason Tovey sicrhau pwyntiau cyntaf o'r noson i'r Dreigiau wedi wyth munud ond roedd ei gic gosb yn aflwyddiannus.

Ac roedd cynnig arall gan y maswr dri munud yn ddiweddarach hefyd yn aflwyddiannus wrth i'w gic hedfan heibio'r postyn.

Serch hynny fe ddaeth pwyntiau cyntaf y noson wedi 22 munud gyda Tom Riley yn croesi am gais i'r Dreigiau yn dilyn rhediad grymus gan Toby Faletau.

Ac wedi methu dwy gic gosb flaenorol fe sgoriodd Tovey ei bwyntiau cyntaf o'r noson wrth drosi'r cais yn llwyddiannus.

Tri munud yn ddiweddarach roedd Munster lawr i 14eg dyn gyda Sam Tuitupou yn cael ei yrru i'r gell gosb yn dilyn tacl uchel.

Gyda'r ymwelwyr un dyn yn brin roedd yr ymwelwyr yn awyddus i fanteisio i'r eithaf.

Er i Gavin Thomas groesi'r llinelli gais ni lwyddodd i dirio'n llwyddiannus gyda thacl allweddol Tomas O'Leary yn llwyddo i'w rwystro.

Wedi gwylio'r ail chwarae fe benderfynodd y dyfarnwr fideo i beidio â chaniatáu cais i'r tîm cartref.

Doedd dim amheuaeth gan y dyfarnwr fideo funud yn ddiweddarach wrth i Thomas sleifio drosodd am ail gais ei dîm.

Llwyddodd Tovey gyda'r trosiad ac roedd y Dreigiau ar y blaen 14-0 wedi hanner awr o chwarae.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Munster wrth i ail chwaraewr - James Coughlan - gael ei anfon i'r gell gosb.

Cafodd Paul Warwick gyfle i sicrhau pwyntiau cyntaf o'r noson i'r ymwelwyr ond profodd ei gic gosb yn rhy fyr.

Ond ni fu'n rhaid i Warwick a Munster aros yn rhy hir am y pwyntiau cyntaf gan iddo lwyddo gyda gôl gosb rwyddach dau funud yn ddiweddarach.

Gyda munud o'r hanner cyntaf yn weddill fe lwyddodd Tovey i adfer y fantais o 14 pwynt gyda gôl gosb.

Y maswr Warwick sicrhaodd pwyntiau cyntaf yr ail hanner gyda chic gosb lwyddiannus i dorri mantais y Dreigiau i 11eg pwynt.

Y Dreigiau oedd lawr i 14eg dyn y tro hyn gyda'u capten Tom Willis yn derbyn y cerdyn melyn.

Llwyddodd Tovey i adfer blwch o 14 pwynt wrth iddo sgorio gôl adlam i'r Dreigiau gyda llai na chwarter awr yn weddill.

Fe geisiodd Tovey ei lwc o bell gyda chic adlam arall bum munud yn ddiweddarach ond nid oedd yn llwyddiannus y tro hwn.

Er i'r ymwelwyr pwyso am gais fyddai wedi sicrhau pwynt bonws fe lwyddodd y Dreigiau i ddal ymlaen i sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth o'r tymor yn y Magners.


Dreigiau: Pat Leach; Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Tom Willis, Nigel Hall, Luke Charteris, Rob Sidoli , Lewis Evans, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Eilyddion: Lloyd Burns, Ben Castle, Hugh Gustafson, Adam Jones, Hugo Ellis, Tom Cheeseman, Jonathan Evans, Matthew Jones.

Munster: J Murphy, D Howlett (cpt), B Murphy, S Tuitupou, D Hurley, P Warwick, T O'Leary; D Ryan, M Sherry, J Hayes, B Holland, I Nagle, T O'Donnell, N Ronan, J Coughlan.
Eilyddion: S Henry, W du Preez, P Borlase,B Hayes, P O'Mahony, C Murray, S Deasy, L Mafi.

Dyfarnwr: Alan Falzone (Yr Eidal)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy