BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 21 Tachwedd 2010

Munster 27-26 Scarlets

Daeth y Scarlets yn boenus o agos at fachu buddugoliaeth nodedig yn erbyn Munster mewn gêm gyffrous a chreadigol yng Nghynghrair Magners.

Roedd y llinell gais o fewn cyrraedd yr ymwelwyr yn y munudau olaf, ond gafodd Morgan Stoddart ei lorio o'r tu ôl gyda Daniel Evans yn disgwyl am bas tu allan iddo.

Adeiladodd Munster fantais o 27-16 wedi 51 munud wrth sgorio dau gais mewn tri munud - a hynny gyda 14 dyn yn unig ar y cae yn dilyn y cerdyn melyn i Peter O'Mahony.

Taclo gwan gan y Scarlets yng nghanol cae adawodd i Sam Tuitupou a Barry Murphy groesi.

Ond brwydrodd y Scarlets yn ôl wrth i'r capten Johnathan Edwards groesi, roedd y bwlch i lawr i bwynt yn dilyn gôl gosb Rhys Priestland gyda 13 munud i fynd.

Stoddart ei hun dorrodd drwy'r amddiffyn cartref i greu'r cyfle olaf dau funud o'r diwedd, ond collwyd y cyfle wrth iddo anelu at y llinell gais yn hytrach na phasio i Evans.

Cyfartal 13-13 oedd hi ar yr hanner wedi cais gyntaf Edwards a chiciau Priestland. Paul Warwick sgoriodd holl bwyntiau Munster gyda chais, trosiad a dwy gôl gosb.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy