Aeth tîm Dai Young i mewn i'r toriad ar y blaen 15-8 i gais yr un gan Casey Laulala a Tom James, gyda Ceri Sweeney yn ychwanegu pum pwynt gyda'i droed.
Ac yntau wedi sgorio cais i Ulster yn yr hanner cyntaf, croesodd y maswr ifanc Craig Gilroy am ail sgôr wedi 58 munud i roi Ulster ar y blaen am y tro cyntaf.
Drylliwyd amddiffyn y Gleision eto dau funud yn ddiweddarach wrth i'r cefnwr Adam D'Arcy fanteisio ar gamgymeriad y tîm cartref.
Willie Falon oedd y nesaf i groesi i'r ymwelwyr cyn i noson hynod siomedig ddod i ben wrth i ragor o gam-drafod adael i Paddy Wallace redeg yn glir at y llinell.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Ulster mewn 8 cynnig yn erbyn y Gleision, gan godi'r ymwelwyr uwchben eu gwrthwynebwyr i'r trydydd safle yn y tabl.
Gleision: Chris Czekaj; Richard Mustoe, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Tom James; Ceri Sweeney, Tom Slater; Taufa'ao Filise, Rhys Thomas, Scott Andrews, James Down, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Ma'ama Molitika, Xavier Rush.
Eilyddion: Gareth Williams , Tom Davies, Sam Hobbs, Bryn Griffiths, Ben White, Dan Fish, Gareth Davies, Gavin Evans.
Ulster: A D'Arcy; C Gilroy, N Spence, I Whitten, S Danielli; I Humphreys, P Marshall; P McAllister, N Brady, BJ Botha; J Muller (capt), D Tuohy; P Wannenburg, C Henry, R Diack.
Eilyddion: A Kyriacou, B Young, J Cronin, T Barker, W Faloon, I Porter, P Wallace, A Trimble.