Sgoriodd yr asgellwr Shane Horgan ddwywaith, gyda'r haneri Shaun Berne ac Isaac Boss yn hollti amddiffyn llipa'r ymwelwyr.
Daeth pwyntiau eraill Leinster, sy'n codi i'r pedwerydd safle yn y tabl, o droed Isa Nacewa.
Dwy gôl gosb ym mhob hanner gan Jason Tovey oedd unig wobr y Dreigiau, a thanlinellwyd eu gwendid ymosodol wrth beidio â sgorio'r un pwynt pan aeth Leinster i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn Leo Cullen.
Leinster: I Nacewa; S Horgan, E O'Malley, F McFadden, D Kearney; S Berne, I Boss; H van der Merwe, R Strauss, C Newland, L Cullen (capt), T Hogan, R Ruddock, S Jennings, S Keogh.
Eilyddion: J Harris-Wright, J McGrath, M Ross, Ed O'Donoghue, D Ryan, P O'Donohoe, I Madigan, A Conway.
Dreigiau: Pat Leach; Will Harries, Tom Cheeseman, Ashley Smith, Adam Hughes; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Tom Willis (capt), Nigel Hall, Scott Morgan, Robert Sidoli, Adam Jones, Gavin Thomas, Lewis Evans.
Eilyddion: Lloyd Burns, Dan Way, Hugh Gustafson, Luke Charteris, Hugo Ellis, Rhodri Gomer Davies, James Leadbeater, Matthew Jones.
Dyfarnwr: Stefano Penne (Yr Eidal).