Yr oedd y Gwyddelod wedi mynd ar y blaen gyda chais Elvis Sevreali'i yn cael ei throsi'n llwyddiannus gan Chris Malone. Ychwanegodd Malone ddwy gôl gosb i'r tîm cartref gyda Steven Shingler yn ymateb gyda phedair gôl gosb i'r ymwelwyr. Daeth y cais allweddol i'r Scarlets yn ystod cyfnod pan oedd Richard Thorpe yn y gell gosb ac fe groesodd Lee Williams yn dilyn sgrym Llwyddodd Shingler i drosi'r cais yn llwyddiannus cyn ychwanegu gôl gosb arall i wneud hi'n 22-16 gyda chwe munud yn weddill. Diflannodd gobeithion y Gwyddelod pan fethodd Malone gyda chic gosb cyn i Shingler sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Scarlets gyda'i chweched gol gosb lwyddiannus. Gwyddelod Llundain: Lennard; Watson, Seveali'i, Bowden, Joseph; Malone, Allinson; Murphy, Paice, Rautenbach; Kennedy (capt), Garvey; Low, Armitage, Hala'ufia. Eilyddion: Buckland, Corbisiero, Ion, Casey, Thorpe, Ojo, Yarde, Lamb. Scarlets: Daniel Evans; Lee Rees, Nick Reynolds, Scott Williams, Lee Williams; Dan Newton, Martin Roberts; Phil John (capt), Emyr Phillips, Peter Edwards, Aaron Shingler, Dominic Day, Jonny Fa'amatuainu, Johnathan Edwards, Ben Morgan. Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Simon Gardiner, Damian Welch, Nic Cudd, Gareth Davies, Steven Shingler, Andy Fenby.
 |