Mewn amgylchiadau anodd roedd yr hanner cyntaf yn un cyffrous gyda'r ddau dîm yn dangos parodrwydd i ymosod gyda'r Gweilch yn croesi am bum cais, Kristian Phillips, Matthew Morgan, Richard Fussell, Ashley Beck a Rhys Webb sgoriodd geisiau'r Gweilch gan sicrhau'r pwynt bonws. Ben Pienaar sgoriodd unig gais yr ymwelwyr yn ystod y deugain munud agoriadol a'r Gweilch oedd ar y blaen 29-10 ar yr egwyl. Sgoriodd Morgan ei ail gais o'r noson yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Sonny Parker groesi am y seithfed cais gyda saith munud yn weddill. Ac wedi cyfnod yn pwyso fe ddyfarnwyd cais gosb i'r Gweilch gyda dau funud yn weddill i goroni eu noson. Gweilch: Tom Prydie; Kristian Phillips, Sonny Parker, Ashley Beck, Richard Fussell; Matthew Morgan, Rhys Webb; Duncan Jones, Mefin Davies (capt), Craig Mitchell, Conor McInerney, James Goode, James King, Justin Tipuric, Andy Lloyd. Eilyddion: Richard Hibbard, Joe Rees, Cai Griffiths, Ian Gough, Marty Holah, Jamie Nutbrown, Gareth Owen, Barry Davies. Caerlŷr: Alex Lewington; Lee Robinson, Dan Hipkiss, Andy Forsyth, Will Hurrell;George Ford, Jason Spice; Camilo Parilli-Ocampo, Rob Hawkins, Ryan Bower, Calum Green, Ben Gulliver, Dan Hemingway, Tom Armes, Ben Pienaar (capt). Eilyddion: Joe Duffey, Fraser Balmain, Peter Bucknall, Matt Everard, Steve Mafi, Sam Harrison, Stephen Macaulay, Rory Lynn.
 |