Jonny Fa'amatuainu gais gyntaf y gêm i'r Scarlets, ond aeth Leeds ar y blaen wrth i gais Warren Fury ategu at ddwy gôl gosb Christian Lewis-Pratt.
Dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny wrth i'r tîm cartref sgorio 45 pwynt heb ildio.
Croesodd y blaenasgellwr Fa'amatuainu am ddau gais arall, gyda Scott Williams (2), Daniel Newton a Aaron Shingler hefyd yn tirio.
Chwaraeodd George North am awr i'r Scarlets am y tro cyntaf mewn mis, gan gynyddu ei obeithion o chwarae i Gymru yn erbyn De Affrica y Sadwrn nesaf.
Scarlets: Evans; North, Reynolds, S Williams, L Williams; Newton, Davies; John, Owens, Edwards, Cooper, A Shingler, Fa'amatuainu, Pugh, Morgan.
Eilyddion: Lawrence, R Jones, Gardiner, Day, Cudd, M Roberts, S Shingler, L Rees.
Leeds: Hinton; Tincknell, Fa'afilli, Burrell, Tadulala; Lewis-Pratt, Fury; MacDonald, Nilsen, Swainston; Barrow, Craig; Paul, Myall (capt), Tooala.
Eilyddion: Alonso, Denman, Moreno-Rodriquez, Stedman, Walker, Hampson, Wackett, Denton.