Daeth cais gyntaf y tîm cartref wedi chwe munud yn unig pan gyfunodd Olly Barkley gyda Ben Williams i yrru Matt Banahan drosodd.
Ac roedd Barkley yn ei chanol hi wedyn wrth i'w gic greu cais i Tom Biggs. Trosodd y maswr y ddau gais.
Ond tarodd y Gleision yn ôl wrth i Gareth Davies groesi am drosgais yn erbyn llif y chwarae, gan ychwanegu at ei dair gôl gosb flaenorol.
Agorodd y nefoedd wedi hanner awr o chwarae, a blaenwyr Caerfaddon reolodd pethau wedi hynny.
Ciciodd Barkley gôl adlam a gôl gosb i wneud hi'n 20-16 ar yr egwyl, cyn llwyddo gyda thair ymgais arall wrth i'r Gleision gael eu cosbi o dan yr holl bwysau.
Un gôl gosb arall oedd unig lwyddiant yr ymwelwyr yng ngwynt a glaw yr ail hanner.
Caerfaddon: Jack Cuthbert; Jacques Boussuge, Matt Banahan (capt), Ben Williams, Tom Biggs; Olly Barkley, Mark McMillan; David Flatman, Ross Batty, Duncan Bell, John van der Giessen, Ignacio Fernandez Lobbe, Josh Ovens, Guy Mercer, Ben Skirving.
Eilyddion: Lee Mears, David Barnes, Aaron Jarvis, Peter Short, Will Skuse, Chris Cook, Paul Roberts, Nick Scott.
Gleision Caerdydd: Dan Fish; Richard Mustoe, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, James Loxton; Gareth Davies, Lloyd Williams; John Yapp, Gareth Williams, Tom Davies, Bryn Griffiths, James Down, Andries Pretorius (capt), Ben White, Tom Brown.
Eilyddion: Rhys Williams, Sam Hobbs, Ian George, Corey Hill, Thomas Young, Tom Slater, Joe Griffin, Owen Williams.