BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 30 Hydref 2010

Gweilch 16-21 Dreigiau

Roedd hi'n noson hanesyddol i'r Dreigiau yn Stadiwm Liberty wrth iddynt ennill ar dir y Gweilch am y tro cyntaf erioed.

Wayne Evans yn croesi am ail gais y Dreigiau

Seren y gêm Toby Faletau a Wayne Evans groesodd am geisiau i'r Dreigiau wrth i'r Gweilch, oedd heb bymtheg chwaraewr amlwg, golli am yr ail gêm yn olynol.

A dyma oedd y tro cyntaf yr oedd y Gweilch wedi colli gartref ers deuddeg gêm.

Yr ymwelwyr, oedd heb ennill oddi cartref yn erbyn tîm arall o Gymru ers Medi 2007, aeth ar y blaen gyda Jason Tovey yn llwyddiannus gyda gôl gosb.

Methodd Gareth Owen gyda chic i unioni'r sgôr ond fe lwyddodd Dai Flanagan, ar ôl ymgymryd â'r dyletswyddau cicio, i wneud hynny wedi hanner awr.

A'r Dreigiau oedd i sgorio cais agoriadol y noson gyda Toby Faletau yn croesi am gais arbennig yn y gornel er ymdrechion gorau'r Gweilch.

Ni lwyddodd Tovey gyda'r trosiad canlynol wrth i'w gic daro'r postyn ond y Dreigiau oedd ar y blaen 8-3 ar yr egwyl.

Roedd safon y chwarae yn ystod yr hanner cyntaf wedi bod yn wael, er doedd y glaw trwm ddim wedi gwneud pethau'n hawdd i'r naill dîm.

Ond o fewn dau funud i'r ail ddechrau yr oedd y Gweilch wedi taro'n ôl.

Cafwyd fflach o ysbrydoliaeth gan gyn asgellwr y Dreigiau, Richard Fussell, dyma'n datgloi'r amddiffyn i alluogi Gareth Owen i groesi o dan y pyst.

Llwyddodd Owen gyda'r trosiad i roi'r tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Ond o fewn dim roedd yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen gyda'r Gweilch yn talu'n ddrud am ddiffyg disgyblaeth wrth i Tovey sgorio'r gôl gosb.

Methodd Flanagan gyfle i roi'r Gweilch yn ôl ar y blaen gyda'i gic gosb yn profi'n rhy fyr cyn iddo lwyddo rhai munudau yn ddiweddarach i adfer mantais ei dim.

Pedwar munud yn ddiweddar fe gafodd Tovey gyfle i roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen ond fe fethodd gyda'i gic gosb.

Ond roedd gwell i ddod i dîm Paul Turner yn fuan wedi hynny wrth i Wayne Evans sleifio ar yr ochr dywyll cyn plymio drosodd yn rhwydd am ail gais y Dreigiau.

Roedd trosiad Jason Tovey yn llwyddiannus ac roedd gan y Dreigiau fantais o bum pwynt gydag ychydig dros chwarter awr yn weddill.

Fe ddaeth Tom Willis, capten y Dreigiau, ymlaen fel eilydd yn ystod yr ail hanner ar gyfer ei gêm cyntaf ers dros fis.

Roedd y bwlch lawr i ddau bwynt yn unig wedi 68 munud gydag Owen yn llwyddiannus gyda chic gosb.

Prin funud yr oedd y bwlch lawr i ddau bwynt wrth i Tovey adfer y fantais o bum bwynt o blaid y Dreigiau gyda chic gosb rhwydd o flaen y pyst.

Fe brofodd hynny i fod yn ddigon i dîm Paul Turner wrth iddynt sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed oddi cartref yn erbyn y Gweilch.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn disgyn i'r seithfed safle yng Nghynghrair Magners tra bod y Dreigiau yn nawfed.


Gweilch: Gareth Owen; Nikki Walker, Sonny Parker, Ashley Beck, Richard Fussell; Dai Flanagan, Jamie Nutbrown; Ryan Bevington, Mefin Davies, Craig Mitchell, Andy Lloyd, Ian Evans, Tom Smith, Marty Holah, Jerry Collins (capt).
Eilyddion: Richard Hibbard, Duncan Jones, Cai Griffiths, Conor McInerney, Justin Tipuric, Rhys Webb, Tom Isaacs, Barry Davies.

Dreigiau: Pat Leach; Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Nathan Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Steve Jones, Nigel Hall, Luke Charteris (capt), Rob Sidoli, Andrew Coombs, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Eilyddion: Tom Willis, Hugh Gustafson, Pat Palmer, Scott Morgan, Robin Sowden-Taylor, Shaun Connor, James Leadbeater, Matthew Jones.

Dyfarnwr: Dave Pearson (Lloegr)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy