Ar noson wlyb ar Barc y Scarlets roedd y tîm cartref ar y blaen 12-10 gyda Rhys Priestland yn llwyddo gyda phedair gôl gosb.
Treuliodd capten Glasgow John Barclay ddeg munud yn y gell gosb cyn i Lou Reed weld y cerdyn melyn.
Ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr ar hynny wrth iddynt groesi am gais agoriadol y gêm wedi 54 munud.
Manteisiodd yr eilydd o faswr Duncan Weir ar amddiffyn llac gan y Scarlets cyn
yn croesi o dan y pyst wedi rhediad grymus o ganol y cae.
Fe drosodd Weir ei gais yn llwyddiannus i leihau mantais y Scarlets i wyth pwynt
Ac o fewn roedd y gêm wedi troi'n gyfan gwbl wrth i'r asgellwr DTH van der Merwe groesi yn y gornel i'r Warriors.
Gyda Weir yn llwyddiannus unwaith yn rhagor gyda'r trosiad roedd Glasgow o fewn pwynt i gyfanswm y tîm cartref.
Ond llwyddodd Priestland, oedd yn chwarae ei hanner canfed gêm yng Nghynghrair Magners, i agor bwlch o bedair pwynt gyda'i chweched gôl gosb o'r noson.
Bu'n rhaid i'r Scarlets amddiffyn am eu bywydau yn yr eiliadau wrth i Glasgow fygwth eu llinell gais ond fe wastraffwyd y cyfle pan gafodd y bêl ei fwrw 'mlaen.
Scarlets: Daniel Evans; Lee Williams, Regan King, Gareth Maule, Nick Reynolds; Rhys Priestland, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Ken Owens, Deacon Manu, Lou Reed, Damian Welch, Josh Turnbull, Rob McCusker, Ben Morgan.
Eilyddion: Emyr Phillips, Phil John, Peter Edwards, Dominic Day, Richie Pugh, Gareth Davies, Dan Newton, Scott Williams.
Glasgow Warriors: P Horne, DTH van der Merwe, M Evans, G Morrison, F Aramburu, R Jackson, C Gregor, J Welsh, D Hall, E Kalman, A Muldowney, R Gray, R Harley, J Barclay (capt) R Vernon.
Eilyddion: F Thomson, K Tkachuk, R Grant, T Ryder, C Forrester, H Pyrgos, D Weir, C Shaw.