Richard Mustoe groesodd am y cais agoriadol gan blymio yn y gornel wedi i Casey Laulala ddadlwytho.
Ychwanegodd y mewnwr Lloyd Williams ail gais ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi cyfnod pan fu'r Gleision yn rheoli.
Cyfrannodd seren y gêm Ceri Sweeney ddeg pwynt at gyfanswm y Gleision, sydd yn ail wedi'r fuddugoliaeth.
Dyma oedd y golled fwyaf i Aironi ddioddef ar domen eu hunain ac mae'r Eidalwyr eto i ennill gêm yng Nghynghrair Magners.
Er yr oedd y Gleision heb Gethin Jenkins, Bradley Davies a Tom Shanklin fe chwaraeodd Martyn Williams wedi gwaharddiad o bythefnos.
Aironi: Julien Laharrague; Giulio Toniolatti, Rodd Penney, Gabriel Pizarro, Danwel Demas; Ludovic Mercier, Tito Tebaldi; Salvatore Perugini, Fabio Ongaro, Luca Redolfini; Marco Bortolami, Quintin Geldenhuys (capt); Jaco Erasmus, Andrea Benatti, Nick Williams.
Eilyddion: Roberto Santamaria, Matias Aguero, Alberto De Marchi, Joshua Furno, Simone Favaro, Pablo Canavosio, Gilberto Pavan, Riccardo Bocchino.
Gleision: Dan Fish; Richard Mustoe, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Gavin Evans; Ceri Sweeney, Lloyd Williams; Tom Davies, Rhys Thomas, Scott Andrews, Michael Paterson, Paul Tito (capt), Ma'ama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush.
Replacements: Rhys Williams, Sam Hobbs, John Yapp, James Down, Andries Pretorius, Tom Slater, Gareth Davies, Owen Williams.
Dyfarnwr: Graham Knox (Yr Alban).