Sgoriodd Adam Hughes ddau gais hwyr pan oedd yr ymwelwyr i lawr i 14 dyn i roi sglein ar y sgôr terfynol wedi gêm annisgybledig a llawn chamgymeriadau ar Rodney Parade.
Aled Brew hawliodd gais arall y Dreigiau yn yr hanner gyntaf, gyda chiciau Jason Tovey yn helpu i agor mantais o 19-5 ar yr hanner.
Giovanbattista Venditti groesodd am unig bwyntiau'r ymwelwyr wrth wasgu mewn yn y gornel chwith er gwaethaf ymdrech gref Hughes i'w wthio dros yr ystlys.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Dreigiau uwchben Glasgow, sy'n chwarae ddydd Sul, i'r degfed safle.
Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Tom Riley, Pat Leach, Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Phil Price, Steve Jones, Pat Palmer, Luke Charteris (capt) Rob Sidoli, Dan Lydiate, Gavin Thomas, Toby Faletau.
Eilyddion: Lloyd Burns, Hugh Gustafson, Nigel Hall, Scott Morgan, Andrew Coombs, Mathew Jones, Nicky Griffiths, Rhodri Gomer Davies.
Aironi: Julien Laharrague; Giulio Toniolatti, Rodd Penney, Matteo Pratichetti, Giovanbattista Venditti; Ludovic Mercier, Pablo Canavosio; Salvatore Perugini, Fabio Ongaro, Luca Redolfini, Carlo Del Fava, Marco Bortolami, Simone Favaro, Nicola Cattina, Nick Williams.
Eilyddion: Roberto Santamaria, Fabio Staibano, Alberto De Marchi, Quintin Geldenhuys, Jaco Erasmus, Tito Tebaldi, Gilberto Pavan, Riccardo Bocchino.
Dyfarnwr: Andrew McMenemy (Yr Alban).