BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 22 Hydref 2010

Gleision 10-16 Scarlets

Rhys Priestland oedd arwr y Scarlets wrth i'w 14 pwynt ddod â record gartref balch y Gleision i ben yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rhys Priestland

Roedd tîm Dai Young wedi ennill chwe gêm yn olynol ar eu tomen eu hun, ond roedd yr ymwelwyr yn llawn haeddu eu hail fuddugoliaeth oddi cartref o'r bron yng Nghynghrair Magners.

Cais a thair gôl gosb oedd cyfanswm Priestland, ac roedd y Scarlets yn anlwcus i beidio sgorio dau gais arall wrth i Iestyn Thomas a Ben Morgan wastraffu cyfleodd euraidd.

Ceri Sweeney sgoriodd holl bwyntiau'r Gleision, oedd heb golli yn erbyn rhanbarth o Gymru ers dydd calan cyn groesawu'r Scarlets.

Roedd y ddau dîm yn euog o fethu ciciau hawdd at y pyst yn yr 20 munud agoriadol, ac roedd un ymgais lwyddiannus yr un gan Sweeney a Priestland yn adlewyrchiad teg wedi cychwyn digon bratiog.

Yna fe lwyddodd y Gleision i gadw meddiant am sbel yn 22 y Scarlets, a chroesodd Sweeney am gais haeddiannol o dan y pyst wedi hanner bylchiad a phas daclus Richie Rees.

Sgoriwyd y cais, a chafodd ei drosi gan Sweeney, funud ar ôl i asgellwr yr ymwelwyr Morgan Stoddart gael ei yrru i gell gosb.

Er gwaethaf yr anfantais honno, tarodd y Scarlets yn ôl gydag ail gôl gosb Priestland, ac fe fethodd y maswr ifanc gyfle arall cyn i Stoddart ddychwelyd.

Erbyn hynny, roedd y timau'n gyfatal o ran niferoedd ar ôl i flaenasgellwr y Gleision Andries Pretorius weld y cerdyn melyn.

A bu bron i'r Scarlets fanteisiodd i'r eithaf, ond llithrodd y bêl o afael Thomas wrth iddo ymestyn dros y llinell gais.

Eiliadau'n unig ar ôl i Pretorius ddychwelyd i'r maes, tro Rees oedd hi i eistedd yn y gell gosb, ac roedd hwb pellach i'r ymwelwyr pan ychwanegodd Priestland dri phwynt arall i wneud hi'n 10-9 wedi 38 munud.

Roedd hi bron iawn yn ddiweddglo perffaith i'r hanner i'r Scarlets, ond tro Morgan oedd hi y tro yma i golli rheolaeth o'r bêl wrth blymio dros y llinell gais.

Ond daeth lwc y Gleision i ben wedi 63 munud wrth i Priestland groesi.

Cic yr eilydd Stephen Jones greodd y cyfle, ac roedd Priestland yn y lle iawn i dderbyn y bêl a gwibio at y llinell ar ôl i Sean Lamont daro'r bêl i'w lwybr ar ôl neidio'n uwch na Gavin Evans.

Agorodd Jones fantais o chwe phwynt wrth lwyddo gyda'r trosiad, ac amddiffyn y fantais i ddigon hawdd wnaeth y Scarlets am yr amser oedd yn weddill.

Roedd ychydig o bryder yn yr eiliadau olaf pan gafodd yr eilydd Dominic Day ei yrru i'r gell gosb, ond tarodd y Gleision y bêl ymlaen wrth chwilio am y cais a dyna oedd diwedd y gêm.


Gleision: Chris Czekaj; Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Tom James; Ceri Sweeny, Richie Rees; Gethin Jenkins, Rhys Thomas, Scott Andrews, Bradley Davies, Michael Paterson, Andries Pretorius, Sam Warburton, Xavier Rush (capt).
Eilyddion: Rhys Williams, John Yapp, Taufa'ao Fillise, Paul Tito, Maama Molitika, Lloyd Williams, Tom Shanklin, Richard Mustoe.

Scarlets: Daniel Evans; Morgan Stoddart, Regan King, Gareth Maule, Sean Lamont (capt); Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Ken Owens, Deacon Manu, Lou Reed, Damian Welch, Josh Turnbull, Rob McCusker, Ben Morgan.
Eilyddion: Matthew Rees, Rhodri Jones, Peter Edwards, Dominic Day, Richie Pugh, Martin Roberts, Stephen Jones, Scott Williams.

Dyfarnwr: Tim Hayes (URC).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy