Cyfunodd olwyr a blaenwyr y Scarlets yn wych ar gyfer y cais agoriadol gyda Morgan Stoddart yn cwblhau'r symudiad i roi ei dim ar y blaen wedi 13 munud.
O fewn dau funud i'r cais hwnnw a throsiad Stephen Jones roedd Caerlŷr wedi taro'n ôl gyda Martin Castrogiovanni yn croesi am gais a Toby Flood yn trosi.
Yn dychwelyd yn dilyn anaf fe lwyddodd Flood gyda dwy gic gosb i roi'r tîm cartref ar y blaen ond i gic gosb gan Jones leihau'r bwlch i dri phwynt cyn yr egwyl.
Roedd Regan wedi ei anfon i'r gell gosb gyda saith munud o'r hanner cyntaf yn weddill ac roedd yn parhau i fod yn absennol ar ddechrau'r ail gyfnod pan sgoriodd Caerlŷr eu hail gais.
Roedd y Scarlets yn euog o amddiffyn gwael dyma'n galluogi Ben Youngs i groesi am gais a gafodd ei throsi'n llwyddiannus gan Flood
Fe aeth pethau ar chwâl i'r Scarlets wedi hynny gyda Youngs y tro hwn yn creu'r cyfle i Tom Waldrom groesi am gais rhwydd.
Gyda 51 munud o'r gêm wedi chwarae fe sicrhaodd Caerlŷr y pwynt bonws gyda Geordan Murphy yn rhyng gipio pas gan King cyn i Tom Croft groesi.
Sgoriodd Croft ei ail gais - a pumed ei dîm - deg munud yn ddiweddarach cyn i Murphy gwblhau'r grasfa gyda'r chweched cais ar ôl derbyn y bas gan Billy Twelvetrees.
Caerlŷr: G Murphy (capt); S Hamilton, M Smith, A Allen, A Tuilagi; T Flood, B Youngs; M Ayerza, G Chuter, M Castrogiovanni, E Slater, G Skivington, T Croft, C Newby, T Waldrom.
Eilyddion: R Hawkins, B Stankovich, D Cole, S Mafi, B Woods, J Grindal, B Twelvetrees, M Tuilagi
Scarlets: Rhys Priestland; Morgan Stoddart, Regan King, Gareth Maule, Sean Lamont; Stephen Jones, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Rhys Thomas, Lou Reed, Vernon Cooper, Josh Turnbull, Rob McCusker, David Lyons.
Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Deacon Manu, Damian Welch, Johnathan Edwards, Tavis Knoyle, Scott Williams, Daniel Evans.
Dyfarnwr: George Clancy (Iwerddon)